Brwydr y Bandiau 2006

gigs-steddfod-abertawe.jpgBydd cyfle i ddilynwyr cerddoriaeth Gymraeg weld talentau’r dyfodol wrth i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg gynnal rhagbrofion cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2006 dros y bythefnos nesaf.

Mae’r Gymdeithas wedi bod yn arloesol wrth ddatblygu’r gystadleuaeth sydd â’r amcan o hybu bandiau newydd. Mae wedi llwyddo i ddarganfod nifer o dalentau dros y blynyddoedd yn cynnwys Derwyddon Dr Gonzo, Java a Mattoidz ac efallai mae enillwyr eleni fydd y nesaf i wneud eu marc ar y sin gerddoriaeth Gymraeg.Bydd y rownd derfynnol unwaith eto’n cael ei chynnal yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, fel rhan o wythnos gigs y Gymdeithas yn Bar 5, Abertawe. Cyn hynny bydd 4 o ragbrofion i ddewis pwy fydd yn camu i’r llwyfan yn Abertawe, gyda un yng nghlwb Medi Caernarfon, un yn Nhy Newydd Sarn, un yn Clwb y cwins Caerfyrddin a’r olaf yn Theatr y Gromlech Crymych.Bydd digon o gyfle felly i weld sêr cerddorol y dyfodol yn ceisio gwneud eu marc am y tro cyntaf.Bydd y rhagbrofion yn cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol:Ty Newydd, Sarn: 7pm, Mercher 19eg Gorffennaf – Anifail, Annioddefol, Cartilag, Gloria a'r Creions Piws, Llan ClanBar Medi, Caernarfon: 7pm, Iau 20fed Gorffennaf – Annwn, Calansho, Ricochet, ZootechnicsClwb y Cwins, Caerfyrddin: 8pm, Gwener 21ain Gorffennaf – Trydan, Amlder, Stone Free, X Port, The CigarsTheatr y Gromlech, Crymych: 6pm, Gwener 28ain Gorffennaf – Pinafal, Yr Addewid, Eusebio, Jincs, Jbinc