Heddiw (Dydd Mercher Mawrth 3ydd), bydd dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn mynd gyda Hywel Williams A.S. i gyflwyno llythyr i Gordon Brown a swyddogion y Trysorlys yn Llundain, er mwyn tynnu sylw at y niwed y gall newidiadau gynigir yn y Gyllideb y mis nesaf ei wneud i'r farchnad dai yng Nghymru.
Bydd Huw Lewis ( Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg) a Dafydd Morgan Lewis (Swyddog Ymgyrchoedd y Gymdeithas) yn trosglwyddo llythyr i'w gyflwyno i Gordon Brown yn y Trysorlys am 11 o'r gloch.Dywedodd Huw Lewis:"Deallwn mai eich bwriad yw cynnig toriadau treth sylweddol i'r sawl sy'n buddsoddi mewn tai ac eiddo fel cynllun pensiwn. Byddai'r newid hwn yn golygu y gallai'r sawl sydd ’'r modd i brynu ail neu drydydd cartref gael hyd at 40% o ostyngiad ar y pris y byddai'n rhaid i unigolyn sy'n prynu ty^ am y tro cyntaf ei dalu".Ychwanegodd Huw Lewis:"Gyda phrisiau tai yng Nghymru yn parhau i gynyddu ar raddfa arswydus, ac o gofio y byddai'r prinder cyfalaf yn y cymunedau gwledig yn eu rhwystro rhag manteisio ar y fath gynllun, ofnwn y byddai'r newidiadau hyn yn arwain at gynnydd sylweddol ym mhryniant tai haf ac yn rhwystro prynwyr tai am y tro cyntaf rhag cystadlu yn y farchnad dai. Yn ychwanegol at hynny, yr ydym yn rhagweld y byddant yn arwain at gynnydd pellach ym mhrisiau tai ac yn tanseilio ymdrechion y Cynulliad Cenedlaethol i ddarparu tai hyfforddiadwy i bobl Cymru. O ystyried y sgil-effeithiau tebygol hyn, credwn y byddai cynllun y Canghellor yn ergyd drom arall i'r Gymraeg yn y cymunedau lle siaredir yr iaith o ddydd i ddydd"