Mae Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg Llywodraeth Cymru wedi gwadu bod swyddog Cyngor Ceredigion wedi derbyn sêl bendith gan y Llywodraeth wrth lunio cynigion i gau pedair o ysgolion gwledig Cymraeg y sir, yn groes i’r hyn ddywedodd cyn pleidlais allweddol y Cabinet ar y mater.
Ar 3 Medi eleni, pleidleisiodd fwyafrif o Gabinet Cyngor Ceredigion dros gynnal ymgynghoriad statudol ar gynigion i gau Ysgol Llangwyryfon, Ysgol Craig-yr-Wylfa, Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn, ac Ysgol Syr John Rhys ym Mhonterwyd.
Yn ystod y trafodaethau’r diwrnod hwnnw, dywedodd Barry Rees, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Ceredigion, ei fod wedi derbyn sicrwydd gan Lywodraeth Cymru fod cynigion yr ymgynghoriadau arfaethedig yn cydymffurfio gyda Chod Trefniadaeth Ysgolion.
Mae’r Cod yn datgan y dylai'r broses ymgynghorol ar ddyfodol unrhyw ysgol gael ei chynnal pan fydd cynigion “yn dal ar gam ffurfiannol.”
Yn fuan wedi’r bleidlais, anfonodd Cymdeithas yr Iaith gwyn at Lynne Neagle, Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg Llywodraeth Cymru dros gydymffurfiaeth yr awdurdod lleol â’r Cod, yn ogystal â chais rhyddid gwybodaeth i wirio honiad Mr. Rees.
Yn eu cais rhyddid gwybodaeth, gofynnwyd i weld unrhyw gofnod neu ebost rhwng Cyngor Ceredigion a Llywodraeth Cymru a allai fod wedi rhoi'r argraff i'r Cyngor fod y Llywodraeth yn cymeradwyo eu bod wedi gweithredu'n gywir o dan y Cod.
Yr unig sylw perthnasol dderbyniwyd yn ôl gan y cais oedd bod swyddog dienw Llywodraeth Cymru, a oedd ond wedi derbyn fersiwn y Cyngor o’r hyn a ddigwyddodd, wedi dweud mewn ebost at Barry Rees:
"Please note that these are personal points and I cant [sic] make any legal comments; I've only been able to have a quick look but hope this helps"
Mewn llythyr yn ymateb i gwyn Gymdeithas yr Iaith, dywedodd Lynne Neagle:
"Nid wyf yn siŵr beth sydd y tu ôl i'r sylwadau a wnaed yng nghyfarfod Cabinet yr awdurdod lleol; fodd bynnag, gallaf gadarnhau nad yw Llywodraeth Cymru yn ardystio nac yn cymeradwyo unrhyw gynnig posibl i ad-drefnu ysgolion."
Wrth ymateb, dywedodd Ffred Ffransis, o Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:
"Nid yw geiriau'r swyddog hwn yn sail gadarn i'r Cyfarwyddwr ddatgan wrth y Cabinet fod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo eu proses o lunio cynigion i gau'r ysgolion ac, heb yr ymyrraeth a'r sicrwydd hwn, mae'n bosib iawn na fyddai mwyafrif aelodau'r Cyngor wedi bod yn fodlon dechrau ymgynghoriad ffurfiol ar y cynnig i gau'r ysgolion gwledig hyn."
Er y feirniadaeth o’r swyddog, ni atebodd Lynne Neagle AoS gwyn sylfaenol Cymdeithas yr Iaith fod Cyngor Ceredigion wedi torri’r Cod.
Ychwanegodd Mr Ffransis:
"Rydym yn siomedig iawn nad yw'r Ysgrifennydd Addysg wedi ateb ein cwestiynau sylfaenol - sef a oes raid i awdurdod lleol ddechrau o safbwynt rhagdyb yn erbyn cau ysgolion gwledig, neu a all cyngor fel Ceredigion ddechrau’r broses gyda bwriad o gau nifer o ysgolion gwledig er mwyn gwneud arbedion yn y Gyllideb?
“Ac a oes ystyr i'r hyn a ddywedir yn blaen yn y Cod fod yn rhaid ystyried opsiynau amgen "tra bo cynigion yn dal ar gam ffurfiannol", neu a ydy Ceredigion yn cael penderfynu ar gynnig i gau ysgolion yn gyntaf, ac yna fynd ati'n beiriannol i wrthod pob opsiwn amgen gyda'r un frawddeg generig ym mhob achos?
“Yn hytrach mae hi wedi gofyn yn y llythyr i bawb ymateb i'r cynigion yn yr ymgynghoriad. Fe anogwn ni bawb felly i wneud hynny, a chodi'r mater gyda hi eto ar ddiwedd y broses os na fydd Cyngor Ceredigion yn ymateb i lais y bobl. Ond gobeithiwn na fydd raid i Lywodraeth ym Mae Caerdydd ddweud wrth Gyngor yn y gorllewin, dan arweiniad Plaid Cymru, fod yn rhaid iddynt amddiffyn ysgolion a chymunedau gwledig Cymraeg, ond y bydd cynghorwyr yn pleidleisio dros hynny eu hunain."