Wrth ymateb i gyhoeddi cabinet newydd Llywodraeth Cymru dywedodd Joseff Gnagbo, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
"Mae sawl peth i'w groesawu am y Cabinet newydd, bydd cysondeb o ran briff y Gymraeg a'i gyfuno â briff yr economi yn beth da. Rydyn ni'n disgwyl i'r Gymraeg fod yn ystyriaeth greiddiol i ddatblygiadau economaidd. Byddwn ni hefyd yn disgwyl i Julie James adeiladu ar y mesurau radical mae hi wedi eu cyflwyno i fynd i'r afael â'r argyfwng tai a mynd at wraidd y broblem wrth iddi gymryd rôl benodol dros Dai a Chynllunio. Mae creu briff sy'n cynnwys materion gwledig yn addawol hefyd a byddwn ni'n disgwyl i Huw Irranca gydweithio gyda Julie James a Jeremy Miles i sicrhau cymunedau Cymraeg hyfyw.
"Mae cyfle gan Lynne Neagle i gryfhau'r Gymraeg. Fel Ysgrifennydd Addysg gall hi gryfhau ac ehangu ar Fil Addysg Gymraeg y Llywodraeth trwy osod nod bod pob plentyn yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050.
"Ac mae'n amlwg bod darlledu yn faes pwysig i'r Llywodraeth, sydd wedi cyhoeddi'r bwriad i greu Corff Cynghori ar Ddarlledu a Chyfathrebu, gan fod Ysgrifennydd Cabinet â chyfrifoldeb penodol dros ddarlledu - mae'n arwydd y gallwn ni ddisgwyl symudiad sydyn felly.
"Rydyn ni eisoes wedi galw ar Vaughan Gething i ddilyn esiampl ei ragflaenydd a dysgu'r a defnyddio'r Gymraeg rydyn ni'n gwneud yr un alwad ar bob aelod o'r Cabinet, bydd gweld Ysgrifenyddion Cabinet yn defnyddio'r Gymraeg yn profi ymrwymiad y Llywodraeth i'r iaith."