"Nid rhywbeth ar wahân yw'r Gymraeg a'n cymunedau" - Cadeirydd newydd Cymdeithas

Wrth annerch y Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith, ar ôl cael ei ethol yn Gadeirydd newydd ar y mudiad, pwysleisiodd Robat Idris nad yw'r Gymraeg yn rhywbeth i'w ystyried ar wahân a bod angen cydweithio efo eraill sy'n weithgar mewn pob math o feysydd

Wrth gyfeirio at y maniffesto a gyhoeddwyd gan Gymdeithas yr Iaith yn gynharach eleni, Cymru Rydd, Cymru Werdd, Cymru Gymraeg, sy'n gosod brwydr y Gymraeg a'n cymunedau yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd a'r ymgyrch dros annibyniaeth dywedodd Robat Idris:
"Mae'n cynnig gweledigaeth y gallwn ni i gyd weithio i'w gwireddu er mwyn creu gwell Cymru i'n pobl, a gwell dyfodol i'n plant. Afraid dweud fod y weledigaeth hon yn hollol groes i fyd olwg dystopaidd Llywodraeth San Steffan - rhaid i'r Gymdeithas weithredu yn eofn yn wyneb eu gelyniaeth i amgylchedd, i gymunedau, ac i Gymru. Rhaid galw Llywodraeth Cymru i gyfri pan fydd angen hefyd - rhaid i'w geiriau droi yn sylwedd fel bod yna lwyfan i'r iaith ffynnu - a mae hyn yn ymestyn ymhell y tu hwnt i bolisi penodol ar yr iaith - mae'n cynnwys popeth. Polisïau ar dir a ffermio, polisi diwydiannol, polisi ynni polisïau ar dai, polisi ar dwristiaeth - mae' rhestr yn hirfaith!"

Mae Robat Idris wedi bod ac yn parhau yn weithgar gyda nifer o fudiadau ac ymgyrchoedd cymunedol a chenedlaethol, gan gynnwys Pobl Atal Wylfa B, Cymdeithas y Cymod, Undod a SAIL.

Meddai:
"Mae cymaint o broblemau cyfoes yng Nghymru a thu hwnt rwy'n teimlo rheidrwydd i ymgyrchu. Ond fel ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith dydy'r mudiadau na'r ymgyrchoedd i fi fod yn rhan ohonyn nhw ddim yn sefyll ar wahân. Mae pob un, fel yr ymgyrch dros degwch i'r iaith, yn rhan o'r ymdrech barhaus fyd-eang dros degwch cymdeithasol, amgylcheddol a gwleidyddol. Mae hynny'n gofyn am ac yn gyfle i gydweithio efo eraill sy'n weithgar mewn meysydd fel tai, addysg, iechyd, amgylchedd ac yn y blaen."