Amgylchynwyd siop M&S Caerfyrdin gan linyn yn dal 200 pâr o bants yn dilyn protest gan agos at 100 o aelodau Cymdeithas yr Iaith heddiw. Wrth annerch cannoedd o siopwyr yng nghanol y dref, dywedodd Hazel Charles Evans fod y siop wedi cefnu ar ei haddewid i wneud eu cangen yng Nghaerfyrddin yn esiampl o ddefnydd llawn o’r Gymraeg.
Er i Gymdeithas yr Iaith gyfarfod gyda rheolwr y siop a swyddogion Marks and Spencer i drafod eu polisi iaith, wedi i'r cwmni adnewyddu arwyddion y siop yng Nghaerfyrddin ddechrau'r flwyddyn mae arwyddion dwyieithog wedi eu tynnu a rhai uniaith Saesneg yn eu lle.
Dywedodd Hazel Charles Evans, un o drefnwyr yr ymgyrch:
"Aeth M&S yn ôl ar eu gair gan iddyn nhw addo rhoi mwy o sylw i'r Gymraeg. Ddechrau eleni fe wnaeth Marks and Spencer adnewyddu arwyddion y siop yng Nghaerfyrddin a chael gwared ar yr arwyddion Cymraeg. Dydyn nhw ddim yn dangos unrhyw barch tuag at eu cwsmeriaid yma yng Nghymru. Mae hyn wedi achosi anniddigrwydd mawr yn nhre Caerfyrddin a'r cyffiniau. Maen nhw'n fethiant a siom."
Ychwanegodd Sioned Elin, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn yr ardal:
“Daeth cymeriad Mark Spencer i Gaerfyrddin heddiw eto, doedd e ddim yn hapus i weld protestwyr gyda'u pants tu fas i'w siop - ond tra bod gwasanaeth Cymraeg Marks and Spencer yn 'pants' dal ati gyda'n pants fyddwn ni!”
Daw'r brotest yn dilyn ymweliad gan 'Mark Spencer' ac wedi i bobl Caerfyrddin annog Marks and Spencer i ddangos teyrngarwch i'r Gymraeg gyda chardiau teyrngarwch arbennig dros y misoedd diwethaf.
Y stori yn y wasg -
"Shoppers say 'pants' to M&S language policy" - South Wales Guardian 01/08/13