Rali i alw am dai i bobl sy'n methu fforddio cartrefi yng Nghymru - tra bod "coroni braint" yn Llundain

Byddwn ni'n cynnal rali fawr "Nid yw Cymru ar Werth" ar y Maes yng Nghaernarfon ar Ddydd Llun 8ed o Fai - sy'n Ŵyl Banc penwythnos coroni Charles Windsor yn frenin yn Llundain.

Esbonia Osian Jones ar ran y Gymdeithas: "Bydd y gwrthgyferbyniad yn amlwg rhwng coroni a dathlu braint a chyfoeth yn Llundain, a'n rali yng Nghaernarfon lle byddwn ni'n rhoi sylw i argyfwng ein cymunedau, argyfwng sy'n gorfodi pobl leol allan am eu bod yn methu fforddio cartref i'w rentu neu brynu. Rwy'n credu y daw cannoedd, os nad miloedd, i'r rali i fynnu fod Llywodraeth Cymru'n cyflwyno Deddf Eiddo er mwyn sicrhau fod ein tai'n cael eu trin fel asedau cymdeithasol i ddarparu cartrefi ac nid fel asedau masnachol i ymelwa arnynt. Mae angen gweithredu dros bobl sy'n anobeithio â chael cartref, ac mae angen safiad dros ddyfodol ein cymunedau Cymraeg, cyn ei bod yn rhy hwyr."

Ychwanegodd Jeff Smith ar ran Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith: "Rydym yn falch fod y pwysau'n dwyn ffrwyth a bod y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James wedi cyhoeddi'r wythnos ddiwethaf nifer o gamau ymarferol pellach i liniaru'r sefyllfa.
"Mae cynigion newydd fel ymchwilio i alluogi awdurdodau lleol i ddarparu morgeisi i helpu pobl i fforddio cartref yn eu hardal leol a'r hyblygrwydd yng Nghynllun Prynu Cartref yn addawol ond mesurau i liniaru ar effeithiau problemau tai yn unig sydd. Dydy'r mesurau ddim yn ddigon uchelgeisiol.
"Mae gweithrediad y farchnad dai, sefyllfa bregus tenantiaid preifat a phrinder tai cymdeithasol yn broblem ledled Cymru. Yn lle atebion fydd yn lleihau'r broblem yn unig, galwn ar y Llywodraeth i ddal ar y cyfle i gyflwyno yn y tymor seneddol hwn Ddeddf Eiddo gyflawn i reoli'r farchnad, grymuso'n cymunedau a rhoi'r hawl i gartre yn lleol i'n pobl."

Byddwn ni'n ychwanegu manylion am y rali ar ein tudalen facebook.