Camau cadarnhaol ond dim cynllun clir gan Sir Benfro

Mae ymgyrchwyr wedi galw ar Gyngor Sir Benfro am weledigaeth gliriach o ran y Gymraeg yn dilyn cyfarfod 'cadarnhaol' gyda swyddogion y Cyngor.
 
Mewn cyfarfod rhwng aelodau Cymdeithas yr Iaith a charedigion yr iaith yn lleol a swyddogion Cyngor Sir Benfro trafodwyd addysg, iaith gwaith y cyngor, tai a chynllunio a gwasanaethau hamdden y sir. Prif fyrdwn yr ymgyrchwyr oedd bod angen i'w Cyngor osod nod o fod yn gorff sydd yn gweithio drwy'r Gymraeg a bod yn fwy blaengar – yn hytrach na dibynnu ar agwedd unigolion brwdfrydig. Cyflwynwyd siarter o alwadau – sydd yn gyfuniad o alwadau hir-dymor a phethau gall y Cyngor eu gwneud yn syth, ond sydd yn gosod nod clir i'r Cyngor ddod yn gorff Cymraeg.
 
Yn ôl Lynn Childs, aelod o Gymdeithas yr Iaith yn Sir Benfro:
 
“Mae'n amlwg o'r hyn roedd gan swyddogion y Cyngor i'w ddweud fod rhai camau cadarnhaol yn cael eu cymeryd o ran y Gymraeg fel iaith gwaith y Cyngor Sir ac ym maes addysg – ac roedden nhw'n cymeryd ein pryderon o ddifrif. Wedi dweud hynny, rydyn ni'n dal i fod dan yr argraff nad oes strategaeth glir – dim cynllun hir-dymor o ran y Gymraeg a dyna sydd ar goll.
 
“Roedd e'n gyfarfod cadarnhaol hefyd o ran bod swyddogion y Cyngor yn awyddus i gwrdd gyda ni eto, i ymateb i'r siarter o alwadau wnaethon ni ei gyflwyno, ac er mwyn ein diweddaru ar beth godwyd.”
 
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn Sir Benfro yn cwrdd ar nos Iau y 26ain o Fehefin, bydd croeso i bawb ddod i rannu syniadau am sut orau i ddal i bwyso ar y Cyngor Sir.