Wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Canllawiau newydd ar gategoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg dywedodd Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:
"Rydyn ni'n falch o weld bod y canllawiau yn gosod disgwyliadau clir ar ysgolion i symud ar hyd y continwwm at ddod yn ysgolion Cymraeg ond does dim cefnogaeth na chymhelliant i Awdurdodau Lleol wneud hynny chwaith. Yn yr un modd mae disgwyl i ysgolion gynllunio'u gweithlu er mwyn gallu darparu addysg Gymraeg, ond does dim cymorth na chefnogaeth ar gyfer hynny.
"Er bod categori Cymraeg penodedig fyddai'n darparu 100% o weithgareddau 90% Cymraeg o ddisgyblion mae ail gategori Ysgol Gymraeg lle byddai o leiaf 60% o ddysgwyr yn ymgymryd ag o leiaf 70% o'u gweithgareddau ysgol yn Gymraeg. Mae hyn yn rhoi camargraff, a does dim cymhelliant i ysgolion gynnig mwy o ddarpariaeth Gymraeg i ddisgyblion."
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am Ddeddf Addysg Gymraeg fyddai'n gosod nod hirdymor i gynllunio ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg cyflawn i bawb.
Ychwanegodd Toni Schiavone:
"Mae'r Llywodraeth wedi addasu'r canllawiau er mwyn creu is-gategori ar gyfer ysgolion penodedig Cymraeg. Roedd hynny yn dilyn ymgynghoriad felly rydyn ni'n falch eu bod nhw wedi gwrando. Ond mae'n amlwg mai'r hyn sydd ei angen, yn hytrach na thocio'r ymylon, yw Deddf Addysg Gymraeg fyddai'n rhoi mesurau mewn lle i ddarparu addysg a gweithgareddau Cymraeg i bob disgybl, a gwneud y Gymraeg yn gyfrwng normal ar draws y system addysg."