Wrth ddod â’n gwylnos 36 awr i ben mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i ddatganiad y Prif Weinidog ar y Gymraeg heddiw
Meddai Robin Farrar, Cadeirydd y Gymdeithas:
“Prin iawn oedd y cig oedd wedi wedi ei addo yn natganiad Carwyn Jones heddiw. Mae'r Llywodraeth wedi bod yn addo datganiad ers wythnosau ac mae blwyddyn a hanner ers canlyniadau'r Cyfrifiad. Yr oll sydd gyda ni fan hyn yw drafft o bolisi - pryd fyddwn ni’n gweld gweithredu?
Wrth gyfeirio ar y ddogfen ei hun meddai:
“Yn ôl yr adroddiad bydd y Gymraeg wrth wraidd y diffiniad o ddatblygu cynaliadwy ym Mil Cenedlaethau’r Dyfodol – mae hynny'n galonogol ond does dim symudiad i wneud y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol o fewn y system gynllunio. Mae oedi a diffyg uchelgais ym maes addysg o hyd, rydyn ni’n galw am addysg Gymraeg i bawb - dim nod clir, dim byd am y cyfnod sylfaen. Ac er bod sôn am £1.2 miliwn o fuddsoddiad yn y Gymraeg, £400,000, mae’r naill swm a’r llall yn bitw, ychwanegol sydd mewn gwirionedd, symud symiau o le i le sydd fel arall.
“Mae'n amlwg bod y Llywodraeth yn deall pa feysydd sydd angen mynd i'r afael â nhw ond eto dydyn nhw ddim yn mynd ati o ddifrif – dydy'r camau sylweddol, eofn a blaengar ddim yma o hyd, a does dim manylder. Byddwn ni’n ystyried datganiad Carwyn Jones, a’i wendidau, mewn cynhadledd ar Orffennaf 4ydd yma ym Mae Caerdydd. Cynhadledd weithredol fydd hon, a fydd yn agored i’r cyhoedd.”
Byddwn ni'n cynnal cynhadledd ar Orffennaf 4ydd ym Mae Caerdydd. Ymysg y mudiadau sy’n cymryd rhan yn y digwyddiad fydd Cyfeillion y Ddaear ac UCAC. Mwy i wybodaeth - colin@cymdeithas.org