Carwyn Jones yn gwrando, rwan mae'n bryd iddo weithredu

Annwyl Aelodau,

Diolch i’r miloedd ohonoch sydd wedi gyrru neges glir i Carwyn Jones eich bod “EISIAU BYW YN GYMRAEG”. Wrth ddod i Ralïau’r Cyfrif yng Nghaernarfon, Merthyr Tudful, Caerfyrddin, y Bala ac ar Bont Trefechan yn Aberystwyth, ebostio Carwyn Jones, cyfrannu at yr hysbyseb yn y papurau newydd heddiw, rydych wedi dangos beth sydd angen ei wneud - gweithredu!

Bues i a thri aelod arall o’r Gymdeithas yn cyfarfod efo Carwyn Jones heddiw. Gan bod y cyfarfod yn un gymharol byr - treuliodd o ychydig llai nag awr efo ni - dewison ni wyth bwynt o’r Maniffesto Byw i drafod gydag o.

Roedd yn gyfarfod cadarnhaol ac adeiladol - mae wedi cydnabod bod angen gweithredu ar frys yn sgil canlyniadau'r Cyfrifiad - ond mae angen dal i bwyso arno i weithredu yr hyn mae wedi ei addo. Mae wedi cytuno i ymateb yn llawn i’r 26 pwynt yn y Maniffesto Byw erbyn y 6ed o Fehefin, ac i gyfarfod efo ni eto. Erbyn hynny, rwy’n gobeithio gweld y Llywodraeth yn gweithredu!

Cytunodd Carwyn Jones i un o’n gofynion yn syth: mae wedi cytuno i gynnal asesiad annibynnol a fydd yn mesur ôl-troed ieithyddol, sef effaith iaith, holl wariant y Llywodraeth ar draws pob maes. Mae hyn yn ddatblygiad arwyddocaol a phwysig.

O ran y saith bwynt arall godon ni, roedd yn gefnogol mewn egwyddor, ond nid oedd yn barod i ddatgan sut yn union bydd yn gweithredu. Rwy’n credu mai heddiw yw’r tro cyntaf iddo ystyried cynnwys y Maniffesto Byw o ddifri, ac rwy’n deall y bydd angen amser i benderfynu os a sut bydd polisïau’r Llywodraeth yn newid. Cawn weld a fydd yn:

  • sicrhau bod y Llywodraeth yn cytuno â’r Safonau Iaith a argymhellwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg
  • sicrhau bod pob plentyn yn gallu gadael y system addysg yn rhugl yn y Gymraeg
  • atal ac adolygu Cynlluniau Datblygu Lleol
  • rhoi’r hawl i gynghorau codi 200% o dreth ar ail dai
  • gwneud y Gymraeg yn rhan ganolog o ddeddfwriaeth Datblygu Cynaladwy
  • cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle, ac
  • ail-wampio gwaith y Mentrau Iaith.

Cyhoeddodd y Llywodraeth heddiw eu bod am gynnal “Cynhadledd Fawr” i drafod y Gymraeg. Rwy’n gobeithio wir y bydd y “Gynhadledd Fawr” yn fwy na siop siarad - cawn weld yn y man - ond dylai Carwyn weithredu yn syth, nid yw’r Gynhadledd yn esgus ar gyfer oedi o unrhyw fath.

Gan fod Carwyn Jones yn dal i ystyried, y neges bellach yw “Dwi eisiau byw yn Gymraeg, gweithredwch!” Rwy’n galw ar bawb felly i fynd ati i godi eu sticeri “Dwi eisiau byw yn Gymraeg Carwyn Jones” ar draws Cymru, gan nodi’r gair “GWEITHREDWCH” arno’n glir.

Diolch eto i chi gyd am gefnogi’r ymgyrch bwysig yma!

Robin