Cau swyddfa'r Llywodraeth yn Aberystwyth

"Llond bol” gyda diffyg gweithredu, medd ymgyrchwyr

Fe wnaeth dwsin o ymgyrchwyr iaith gadwyno eu hunain i gatiau swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth y bore yma gan ddweud eu bod wedi ‘cael llond bol’ gyda diffyg ymateb Carwyn Jones i ganlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad.

Mae'r weithred yn rhan o gyfres bydd ymgyrchwyr iaith yn eu trefnu dros y gwanwyn, er mwyn pwyso ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng sy'n wynebu'r Gymraeg trwy weithredu chwe phwynt polisi.

Ym mis Hydref 2013, cyhoeddwyd casgliadau'r Gynhadledd Fawr – ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar sefyllfa'r iaith yn dilyn canlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad - ymysg y prif argymhellion roedd: cynyddu'r buddsoddiad ariannol yn y Gymraeg yn gyffredinol; newidiadau radical i addysg Gymraeg ail iaith; a newidiadau i'r gyfraith gynllunio. Ym mis Tachwedd, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai'n lansio ymgyrch i annog pobl i ddefnyddio eu Cymraeg bum gwaith y dydd. Doedd dim un gair am y Gymraeg ym Mil Cynllunio drafft y Llywodraeth.

Meddai Cen Llwyd ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Rydyn wedi cael llond bol â disgwyl ymateb cadarn a chlir gan Carwyn Jones. Mae pawb call yn derbyn bod argyfwng yn wynebu’r iaith, ond dyw’r Llywodraeth dal ddim yn gwneud dim. Rydyn ni barhau i obeithio y gwelwn ni newid cadarnhaol, achos gydag ewyllys gwleidyddol, gallai’r iaith ffynnu dros y blynyddoedd i ddod. Ymhell dros flwyddyn ers canlyniadau’r Cyfrifiad, mae diffyg gweithredoedd y Llywodraeth yn chwerthinllyd.”

Ychwanegodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

"Roeddwn i'n falch iawn o allu sefyll gyda myfyrwyr heddiw - gyda’n gilydd rydyn ni’n cynrychioli dyhead y genhedlaeth bresennol, a’r rhai sydd i ddod, i gael byw yn Gymraeg ac i weld gweithredu er mwyn sicrhau hynny. Ers dros flwyddyn, rydym wedi llythyra, cynnal cyfarfodydd, cymryd rhan mewn cynadleddau a thrafodaethau di-ri gyda'r Llywodraeth. Nawr, trwy'r anufudd-dod dinesig yma, rydym am bwysleisio wrth Carwyn Jones nad mater bach yw’r Gymraeg i bobl Cymru."

Mae'r brotest yn rhan o ymgyrch ehangach y Gymdeithas sy'n rhoi pwysau ar y Llywodraeth Lafur i weithredu ar frys dros y Gymraeg. Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y Llywodraeth i ymgorffori 6 phwynt sylfaenol yn ei pholisïau, megis addysg Gymraeg i bawb, tegwch ariannol i'r iaith, a threfn gynllunio newydd er budd ein cymunedau.