Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Llywodraeth y Cynulliad o "ddiffyg dychymyg" yn dilyn datganiad Rhodri Morgan ddoe y gallai hyd at 170 o ysgolion gau o ganlyniad i leoedd gwag. Mewn neges at y Prif Weinidog, dywed Ffred Ffransis, llefarydd y Gymdeithas ar addysg fod: "yr hen agwedd negyddol hwn yn awgrymu diffyg dychymyg ar ran y llywodraeth." Ychwanegodd:"Dylai ein llywodraeth ymateb yn greadigol i'r argyfwng ariannol. Mae lluaws o asiantaethau cyhoeddus sydd i gyd a'u swyddfeydd eu hunain. Lle bu'n addas, pam na ellid eu lleoli tu fewn i ysgolion sydd a chapasiti dros ben, a defnyddio adnoddau ysgolion i gyflwyno ystod eang o wasanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig a dirwasgedig? Y prif rwystr yw'r agwedd cul tuag at gynulledifa adrannol. Mae angen meddylfryd holistaidd a chydlynus newydd i ddatblygu ysgolion yn greadigol yn wir asedau cymunedol, gan arbed o ganlyniad gwariant o gyllidebau eraill."