Mae cynghorwyr Ynys Môn wedi penderfynu drwy bleidlais agos heddiw i fwrw ymlaen gyda chynlluniau i geisio cau ysgolion Bodffordd a Thalwrn.
O flaen tua thri deg o gefnogwyr yr ysgolion, methodd gwelliant i gadw Ysgol Bodffordd ar agor o saith pleidlais i bump mewn cyfarfod o bwyllgor craffu’r cyngor. Yn dilyn y penderfyniad heddiw, bydd Pwyllgor Gwaith y Cyngor yn penderfynu ddydd Llun nesaf a fyddant yn bwrw ymlaen gydag ymgynghoriad ffurfiol ar y cynigion i gau’r ysgolion.
Mewn ymateb i’r newyddion, dywedodd Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith:
“Yn dilyn y ffaith bod pleidlais mor agos a diffyg cytundeb yn y pwyllgor craffu heddiw ar y cynigion i gau’r ysgolion ffyniannus hyn, rydyn ni’n galw ar y pwyllgor gwaith i beidio â symud ymlaen gyda’r cynigion. Yn hytrach, dylen nhw ddefnyddio’r cyfnod o chwe wythnos i greu consensws. Mae cytundeb bod angen buddsoddiad yn Llangefni, ond mae hefyd cefnogaeth sylweddol i’r ysgolion pentrefol ym Modffordd a Thalwrn. Mae angen defnyddio’r cyfnod yma i greu consensws.
“Yn anffodus, gan fod Cyngor Môn wedi gwneud yn glir eu bod nhw’n ceisio pob dull i sicrhau eu bod yn cau’r ysgolion, mae’n anochel bydd cwyn yn erbyn y Cyngor ar ddiwedd y broses am beidio â chydymffurfio â’r cod cenedlaethol. Bydd hyn yn gohirio’n fwy eto’r buddsoddiad sydd ei angen yn Llangefni ac yn parhau’r ansicrwydd i gymunedau Bodffordd a Thalwrn.”
Ym mis Mai'r llynedd, tynnodd y cyngor ei gynigion i gau’r ysgolion yn ôl wedi ymyrraeth gan y Gweinidog Addysg. Mae’r cod trefniadaeth ysgolion newydd, a ddaeth i rym ym mis Tachwedd 2018, yn sefydlu rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig. Mae Ysgol Bodffordd yn rhif un ar restr ysgolion gweledig sydd i fod i gael eu gwarchod yn ôl cod Llywodraeth Cymru. Mae Ysgol Bodffordd dros gapasiti ac Ysgol Talwrn o fewn 8% i gapasiti.