Cell Caerdydd yn cefnogi addewidion y Cyngor

Mae Cell Cymdeithas yr Iaith Caerdydd wedi croesawu addewidion a wnaed mewn perthynas â’r iaith Gymraeg yng nghyfarfod llawn o’r cyngor yr wythnos diwethaf.

Yn ystod dadl arbennig ar yr iaith Gymraeg, cafwyd consensws ymysg cynghorwyr ynglŷn â gwerth a phwysigrwydd yr iaith a chyhoeddodd y Cyng. Heather Joyce, arweinydd y cyngor, fod bwriad i sefydlu grŵp trawsbleidiol er mwyn edrych ar ffyrdd gall y Cyngor hybu’r Gymraeg yn y ddinas.

Gobaith Cymdeithas yr Iaith yw y bydd Cyngor Caerdydd yn gweithredu’n gadarnhaol o blaid y Gymraeg yn dilyn y cyfarfod. Dros y misoedd diwethaf mae’r Gymdeithas wedi beirniadu’r cyngor ar ôl iddynt ddiddymu cyllid gwyl Tafwyl, torri cyllid Menter Caerdydd a thorri eu gair ynglŷn â sefydlu ysgol Gymraeg newydd yn Grangetown a Threbiwt.

Dywed Ioan Teifi o gell Caerdydd, Cymdeithas yr Iaith: “Ar ôl misoedd o bwyso gan Gymdeithas yr Iaith a mudiadau eraill, ymddengys o’r diwedd fod Cyngor Caerdydd yn bwriadu bod o ddifrif am y Gymraeg. Dwedon nhw bethau da o blaid y Gymraeg, nawr rhaid i ni obeithio nad siarad gwag oeddynt.”

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am gyfarfod gydag arweinydd y Cyngor Heather Joyce er mwyn trafod sefyllfa’r Gymraeg yn y ddinas.

Ychwanegodd Ioan Teifi: “Mae gan Cymdeithas yr Iaith ddeiseb fydd yn cael ei gyflwyno i’r cyngor. Lansiwyd y ddeiseb yn ystod gŵyl Tafwyl. Ymysg yr hyn mae’r ddeiseb yn galw amdano mae ail-sefydlu’r grant i Tafwyl, gwrthdroi’r toriadau i Fenter Caerdydd a cadw ei gair am adeiladu ysgol Gymraeg newydd yn Grangetown. Mae’r cyngor wedi cythruddo llawer o bobl dros y misoedd diwetha wrth iddynt danseilio’r Gymraeg. Nid yw’n rhy hwyr iddynt i newid y sefyllfa.”