Mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon cerdyn llongyfarchiadau tafod-mewn-boch at Gyngor Casnewydd am fod yr unig awdurdod lleol yng Nghymru heb wefan Gymraeg.
Yn ôl cynllun iaith y Cyngor, a gymeradwywyd yn 2009, bydd y Cyngor yn “Sicrhau dimensiwn Cymraeg ym mhrif ddulliau cyfathrebu torfol/cyhoeddusrwydd y Cyngor, sef y wefan a’r cylchlythyr”.
Dywed y cerdyn â anfodd grwp lleol y Gymdeithas at Brif Weithredwr y Cyngor: “Llongyfarchiadau Mawr i Chi! Mae’r Cyngor yn bell ar y blaen i fod yr awdurdod lleol mwyaf gwrthwynebus i’r Gymraeg yng Nghymru. A gyda chymaint o gystadleuaeth, mae hynny’n dipyn o lwyddiant. Chi yw’r unig awdurdod lleol sydd heb wefan Gymraeg. Mae’r Welsh Not dal yn fyw yng Nghasnewydd felly.”
Yn ôl trigolion y ddinas, gwelwyd cynnydd sylweddol yn narpariaeth Gymraeg y Cyngor wrth iddynt geisio Cymreigio’r ddinas ar gyfer Eisteddfod 2004, ond ers hynny, mae’r Cyngor wedi llithro’n ôl i’w hen ffyrdd, gan esgeuluso’r Gymraeg a’i siaradwyr. Erbyn hyn, mae arwyddion, posteri a hysbysebion uniaith Saesneg i’w gweld ledled y ddinas ac adeiladau’r Cyngor.
Meddai Alun Thomas, aelod o gell Casnewydd Cymdeithas yr Iaith: “Os nad oedd y cyngor yn chwerthinllyd o’r blaen, mae’n sicr eu bod erbyn hyn. Mae yno alw cynyddol am wasanaeth Gymraeg gan y Cyngor, ond mae trigolion y ddinas yn cael eu hanwybyddu. Mae’n warth o beth mai nhw yw’r unig Gyngor heb wefan Gymraeg. Nid yn unig oherwydd eu bod nhw’n torri ei cynllun iaith statudol, ond dyn nhw ddim chwaith yn sylweddoli hynny.
“Mewn cyfarfod gydag aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn ddiweddar, nid oedd yn ymddangos bod y Prif Weithredwr yn sylweddoli’r hyn roedd cynllun iaith y Cyngor yn ei ddweud. Pan welodd fod y cynllun iaith yn addo gwefan Gymraeg, arwyddion a phosteri dwyieithog ymysg pethau eraill, dywedodd “na ddylent fod yn gwneud addewidion nad ydynt yn medru eu cadw”.