Cerdyn Post Tryweryn ar gyfer Cynghorwyr Gwynedd

taith-cadwnysgolion-b.jpgBydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn cerdded 70 o filltiroedd er mwyn dobarthu a llaw Cerdyn Post anferth o Dryweryn i gynghorwyr Gwynedd yng Nghaernarfon o flaen pleidlais dyngedfennol am ddyfodol ysgol sy'n gonglfaen i un o gymunedau pentrefol enwocaf Cymru.Ar brynhawn Iau y 15ed o Orffennaf, bydd y Cyngor llawn yn pleidleisio ar ddyfdol yr ysgol yn y Parc, ger Y Bala, man geni Merched y Wawr. Ar y prynhawn Sul blaenorol, bydd Pwyllgor Amddiffyn Ysgol y Parc yn cynnal Rali Tryweryn 2010 ar yr argae i gofio'r gymuned a ddinistrwyd gan Gyngor Lerpwl ac i rybuddio fod ein Cyngor ein hunain yn bygwth cymuned arall yn awr trwy ddwyn yr ysgol.Bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn gwahodd pawb yn y rali i lofnodi Cerdyn Post anferth Tryweryn a'i gyfeirio at Gyngor Gwynedd. Yn dilyn y rali, bydd aelodau'r Gymdeithas yn cychwyn ar Daith Gerdded 70 o filltiroedd i gludo'r cerdyn post yn bersonol at Gynghorwyr Gwynedd gan gyrraedd Caernarfon ar gyfer rali tu allan i bencadlys y Cyngor am 1pm Iau 15ed.Pwysa yma i lawrlwytho taflen manwl y daith (pdf)Esboniodd llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis:"Wedi dwy flynedd, mae'n bryd i ni ddychwelyd at y ffordd yn dilyn y bygythiad newydd hwn i gymuned Gymraeg. Trist iawn yw ystyried mai Corfforaeth Lerpwl a ddinistriodd gymuned Gymraeg leol hanner canrif yn ol, ond yn awr y mae ein pobl ein hunain yn bygwth tanseilio cymuned Gymraeg trwy gau'r ysgol sy'n gonglfaen i fywyd Parc. Ar y ffordd, byddwn yn ymweld a phentrefi Cymraeg eraill yng Ngwynedd a Chonwy y mae bygythiad i'w hysgolion."

MYNYDD I'W DDRINGOYchwanegodd Mr Ffransis:"Gan fod swyddogion Gwynedd wedi perswadio Bwrdd y Cyngor i dderbyn eu hargymhelliad, cydnabyddwn fod gyda ni fynydd i'w ddringo wrth geisio perswadio'r Cyngor llawn i beidio a bradychu pobl y Parc. Fel symbol o'n parodrwydd i ddringo'r mynydd hwn, bydd y Daith Gerdded yn mynd i gopa'r Wyddfa ar y ffordd i Gaernarfon yn hytrach na cherdded o gwmpas y mynydd. Fe godwn baner 'Cadwn ein hysgolion a'n pentrefi Cymraeg' ar ben y mynydd."