Gosododd ymgyrchwyr iaith gloeon ar adeilad Llywodraeth Cymru heddiw (Rhagfyr 14) er mwyn galw am chwe newid polisi er lles y Gymraeg, gan nodi blwyddyn ers i ganlyniadau’r Cyfrifiad ddangos cwymp yn nifer siaradwyr yr iaith.
Soniodd areithwyr gwrth-dystiad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a gynhaliwyd wrth ymyl swyddfeydd Llywodraeth Cymru, am y ffactorau sy’n cloi eu cymunedau allan o’r Gymraeg. Cyfeirion nhw hefyd at y chwe newid polisi y mae’r Gymdeithas wedi rhoi tan Chwefror 1af i’r Prif Weinidog ddatgan ei fwriad i weithredu arnyn nhw, megis addysg Gymraeg i bawb, chwyldroi’r system gynllunio a hawliau iaith clir.
Ymysg y siaradwyr roedd y Prifardd Ieuan Wyn, Hilary Paterson-Jones o ymgyrch Achub Penrhos ar Ynys Môn, Cynghorydd Sir Gâr Alun Lenny, a Mared Ifan o Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystywth. Gorymdeithiodd myfyrwyr draw i’r rali o Neuadd Pantycelyn, a chanodd y dorf anthem De Affrica ar ddechrau’r rali er cof am Nelson Mandela.
Yn siarad yn y rali, dywedodd Toni Schiavone llefarydd cymunedau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae’n bryd i wleidyddion Cymru weithredu dros y Gymraeg yn hytrach na chynnig mwy o siarad gwag. Mae amser yn brin er mwyn cyflawni newid a fydd yn troi’r sefyllfa’r iaith rownd. Mae na dri darn o ddeddfwriaeth - y Mesurau Tai, Cynllunio a Chenedlaethau’r Dyfodol - sy’n cynnig cyfle hanesyddol er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn rhan ganolog o’r broses gynllunio. Mae’n glir: oni bai bod grym deddfwriaethol i sicrhau bod ystyriaeth o’r Gymraeg yn y broses honno, fydd dim byd yn newid dros y 10 mlynedd nesaf. Bydd y nifer o gymunedau Cymraeg ei hiaith yn parhau i leihau - ni fydd y Gymraeg yn parhau fel iaith fyw i ond llond dwrn o gymunedau. Mae gormodedd o ewyllys da a geiriau gwag a dim digon o ewyllys i weithredu. Nawr yw'r amser i weithredu ac mae ein Maniffesto Byw yn rhoi arweiniad."
Mae nifer y cymunedau gyda mwy na 70% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg wedi dirywio’n ddifrifol dros yr ugain mlynedd diwethaf, o 92 yn 1991 i 39 yn 2011. Anerchodd Cynghorydd Alun Lenny, sy’n aelod o bwyllgor cynllunio cyngor Sir Gaerfyrddin, y dorf gan ddweud: “Nid yw iaith yn marw’n naturiol. Ffactorau allanol sy’n ei lladd. Os yw’r Gymraeg i fyw, rhaid cymryd camau i leddfu effaith y ffactorau allanol yna... Mae caniatau codi ystadau anferth mewn cymunedau Cymraeg yn niweidiol: yn denu nifer fawr o bobol o bant i’r gymuned leol, gan newid natur y gymuned honno am byth… Ar y llaw arall, mae caniatau pobol leol i godi cartref neu sefydlu busnes yn eu cymuned yn ffactor fuddiol: yn helpu cadw Cymry Cymraeg yn eu cymunedau. Ond mae rheolau cynllunio caeth yn aml yn rhwystro pobol rhag gwneud hyn.
“[Mae] Llywodraeth Cymru yn dangos diffyg ewyllys gwleidyddol i ddefnyddio’r drefn gynllunio i warchod y Gymraeg rhag ffactorau sy’n ei lladd: yn rhoi rhwydd hynt i ddatblygwr o Jersey i godi 300 o dai yn ardal Rhydaman - tra’n rhwystro teulu lleol rhag codi tŷ er mwyn sefydlu busnes gwledig yn Rhydargaeau. Trwy hwyluso codi ystadau mawr ar y naill law, ond yn gwneud hi’n anodd dros ben i bobol leol godi cartref ar y llaw arall, mae polisiau Llywodraeth Cymru yn cloi pobol mas o’u cymunedau. Rhaid gwneud rhywbeth am hyn nawr...”