Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu penderfyniad cabinet Cyngor Sir Fflint i beidio â bwrw ymlaen gydag ymgynghoriad i ddileu’r ddarpariaeth gludiant am ddim i ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Roedd nifer o fudiadau iaith wedi ysgrifennu ar y cyd at y cyngor gan alw arnyn nhw ollwng y cynigion, gan gynnwys y Gymdeithas, Rhieni dros Addysg Gymraeg, UCAC, Syfflag a CYDAG.
Meddai Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg, Cymdeithas yr Iaith:
"Rydyn ni'n falch bod y cyngor wedi newid ei feddwl. Yn lle cymryd camau sy'n mynd i rwystro normaleiddio addysg cyfrwng Cymraeg, dylai cynghorau fod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gynllunio ar gyfer addysg Gymraeg i bob disgybl.
"Yn dilyn hyn, dylai Llywodraeth Cymru anfon nodyn at bob awdurdod lleol i esbonio nad yw cynigion fel hyn gan swyddogion Cyngor Sir y Fflint yn dderbyniol yn enwedig gan ystyried y targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr."