Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi condemnio penderfyniad y Cynulliad i beidio â chyfieithu'r cofnod o drafodion yn y siambr i'r Gymraeg. Mae'r mudiad hefyd wedi rhybuddio y byddan nhw'n ymgynghori gyda chyfreithwyr yngl?n â her gyfreithiolMae'r mudiad yn cynnal protest tu allan i'r Senedd ar ddydd Sadwrn 22 Mai, fe ddywedodd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae'r penderfyniad yn warthus. Mae'n dangos bod syniad y Cynulliad o ddwyieithrwydd yn sham: dyn nhw ddim yn trin yr iaith Gymraeg yn gyfartal. Bydd y Saesneg yr unig iaith swyddogol yn y Cynulliad oherwydd y penderfyniad - maen nhw'n gadael y Gymraeg ar yr ymylon. Pa obaith sydd gan y Gymraeg os nad yw'r gwleidyddion yn ei chymryd hi o ddifrif?"Mae'n arweiniad gwael iawn i sefydliadau eraill hefyd - mae'n mynd i danseilio datblygiad yr iaith Gymraeg ymysg cyrff cyhoeddus a'r sector preifat. Dyna pam rydyn ni'n mynd i ymgynghori gyda chyfreithwyr i weld os gallwn ni herio penderfyniad."