Coleg Ffederal Cymraeg ar y ffordd...

Yn dilyn y cyhoeddiad ddoe mewn cyfarfod agored o'r Bwrdd sy'n trafod modelau posib ar gyfer y Coleg Ffederal Cymraeg, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn croesawu'r cyfeiriad mae'r Bwrdd yn ei gymryd a'r egwyddorion sylfaenol maent yn eu harddel ar hyn o bryd.Dywedodd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Rydym yn cyd-weld â gweledigaeth y bwrdd am sefydliad annibynnol gydag arian wedi ei gorlannu. Mae'n adeg cyffrous iawn os bydd y cynlluniau hyn yn cael eu gwireddu ac rydym yn falch fod blynyddoedd o ymgyrchu gan fyfyrwyr a'r gymdeithas ehangach yn gweld ffrwyth.""Rydym yn pwysleisio fod angen sicrhau buddsoddiad sylweddol i'r cynllun. Hefyd, rydym eisiau i'r Coleg Ffederal fod yn gymuned academaidd genedlaethol, nid corff cyllido addysg Gymraeg."

Pwrpas y Coleg Ffederal Cymraeg fydd datblygu addysg Gymraeg yn y sector addysg uwch, a meithrin gweithlu dwyieithog i Gymru.Mae gan Gymdeithas yr Iaith un cynrychiolydd ar y bwrdd trafod dan gadeiryddiaeth Yr Athro Robin Williams, ac fe fydd ef yn cyflwyno adroddiad i'r Gweinidog Addysg ym mis Mai.