Coleg Ffederal Gymraeg ar daith

Protest Coleg Ffederal Am 2pm heddiw, wrth Uned Prifysgol Cymru ar Faes yr Eisteddfod, bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal Seremoni Gyhoeddi ein COLEG FFEDERAL CYMRAEG AR DAITH. Yn uchafbwynt i’r seremoni, bydd Catrin Dafydd (Llywydd U.M.C.A. 2003-4 ac arweinydd yr ymgyrch dros Goleg Cymraeg) yn darllen “Siarter Gymdeithasol” (yn hytrach na brenhinol !) ein Coleg Ffederal Cymraeg ar daith.

Cred Cymdeithas yr Iaith ei bod yn bwysig i ni ddal ar gyfle sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg i gynnig addysg a fydd yn gwasanaethu anghenion ein pobl yn hytrach na chyfieithu’n gaeth yr addysg academaidd bresennol i’r Gymraeg. Dywedodd llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar Addysg, Ffred Ffransis, “fod Prifysgol Cymru’n gweithredu’n erbyn buddiannau’n cymunedau Cymraeg ddwywaith drosodd – trwy gynnig y rhan helaethaf o’r addysg yn Saesneg yn unig a thrwy ddiwreiddio Cymry ifainc o’u cymunedau gan eu bod yn gwahanu dysgu oddiwrth weithredu yn ein cymunedau.Ychwanegodd : “Bwriad Cymdeithas yr Iaith, wrth drefnu Coleg Ffederal Cymraeg ar daith ym mis Medi, yw rhoi rhagflas o’r hyn sy’n bosibl o ran cynnig addysg safonol Gymraeg sy’n berthnasol i anghenion ein cymunedau. Mewn un wythnos bydd gyda ni 6 sesiwn mewn 6 gwahanol leoliad - yn amrywio o ddarlithfa coleg i ysgol bentre, o festri capel i glwb cymdeithasol, ac o theatr i daith gymunedol. Dengys yr amrywiaeth gyfoethog honfel y gallai Coleg Cymraeg aml-safle ac allblyg roi ei adnoddau ar waith i gryfhau ein cymunedau. Ym mhob sesiwn fe fydd fforwm agored i drafod yr ymgyrch ac i ddilyn gwrs blasu perthnasol i anghenion y gymuned leol.“Os na chaiff Coleg Cymraeg o’r fath ei sefydlu, yna bydd myfyrwyr Cymraeg yn dal i gael eu diwreiddio a’u gorfodi i astudio’n Saesneg yn y flwyddyn 2020. Galwad larwm yw hwn i’r Brifysgol.“Dywed rhywrai fod addysg Gymraeg yn cynnig yr holl atebion i broblemau’r iaith. Mewn gwirionedd, rydym yn colli tir ym maes addysg Gymraeg hefyd – trwy’r holl system o golli ein hysgolion pentrefol Cymraeg hyd at styfnigrwydd Prifysgol Cymru. Mae her i ni ymgyrchu ym maes addysg hefyd.”Er mwyn rhoi rhagflas o’r hyn a allai fod, a’n hannog i ymgyrchu, mae Cymdeithas yr Iaith yn trefnuCOLEG FFEDERAL CYMRAEG AR DAITH - Medi 6 – 11eg 2004Am wythnos, fe geisiwn ddangos yr hyn sy’n bosibl ac annog ein pobl i ymgyrchu.Ym mhob canolfan fe fydd fforwm agored i gychwyn "Coleg Ffederal Cymraeg – Gwireddu’r Freuddwyd". Bydd myfyrwyr ac eraill yn sôn am yr ymgyrch a gwahodd trafodaeth. Yn dilyn, fe fydd awr o "gwrs blasu" i ddangos fel y gallai Coleg Ffederal Cymraeg gynnig addysg berthnasol i fywydau pobl leol ac yn haeddu’n cefnogaeth ni oll. Dyma’r rhaglen :Llun 6 Medi – 2pm Sefydliad Gymunedol Llanrug (ac wedyn ar daith).Fforwm agored ac i ddilyn cwrs "Hybu Datblygu Cymunedol" gyda golwg ar seiliau economaidd a chymdeithasol pentrefi Dyffryn Peris. Arweinydd – Selwyn Williams.Mawrth 7 Medi – 7pm Festri Capel Efail IsafFforwm agored ac i ddilyn Sesiwn Rhyngweithiol “A yw ein hysgolion dwyieithog yn cynhyrchu cymunedau dwyieithog ?” Arweinwyr – Helen Prosser a Cennard Davies.Mercher 8 Medi – 6pm – Lleoliad i’w drefnu yn Ardal AbertaweFforwm Agored gyda chroeso arbennig i ddysgwyr ac i ddilyn Sesiwn “Cymraeg Perthnasol i Oedolion” gan drafod pêl-droed a’r angen i ddarbwyllo Sky i ddarlledu gemau Cymru’n Gymraeg. Cyfle i weld y gêm yn erbyn Gogledd Iwerddon ar sgrin lydan yn syth wedyn yn y clwb.Iau 9 Medi – 7pm – Neuadd yr Ysgol, Llanfihangel-ar-arthFforwm Agored ac i ddilyn Cwrs Blasu “Effaith Tirweddaeth ar Gynefin a chymunedau dynol” tan arweiniad Dr John Davies. Sut y mae natur ein tirwedd wedi dylanwadu ar ein cynefin trwy hanes ac yn parhau felly. Mapio ein cymunedau.Gwener 10 Medi – 7pm – Stafell Ymarfer Theatr FelinfachFforwm Agored ac i ddilyn Gweithdy tan arweiniad Euros Lewis “Ymateb yn greadigol i argyfwng ein cymunedau Cymraeg”. Gobeithiwn y bydd criw yn deillio o’r gweithdy hwn a fydd yn creu cynhyrchiad i’w berfformio yn ein cymunedau.Sadwrn 11 Medi – 10.30am – Ymgynnull wrth Fynedfa Neuadd JMJ, BangorFforwm Agored a Gweithdy Gwleidyddol “Y Cynulliad a’r ymgyrch dros Goleg Ffederal Cymraeg.” Yn y prynhawn, bydd taith at gynhadledd Cymru/Cuba yn Yr Wyddgrug.A wnewch chi gofnodi eich bwriad i ddod at un neu ragor o’r sesiwynau hyn o’r Coleg Ffederal Cymraeg ar daith trwy roi eich enw yn Uned Cymdeithas yr Iaith ar Faes yr Eisteddfod neu ddanfon at ffred@cymdeithas.com