Comisiynydd Hawliau Dynol a'r Gymraeg, Cymdeithas yn gofyn am eglurhad

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi gofyn am eglurhad wrth y Comisiynydd Hawliau Dynol am ei sylwadau yngl?n â'r iaith Gymraeg, ar ôl iddi ddweud mewn cyfweliad nad oedd gan 'y Comisiwn Cydraddoldeb ddim cyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg'.Fe ddywedodd y Comisiynydd newydd mewn cyfweliad gyda'r cylchgrawn Golwg: "Does gan y Comisiwn Cydraddoldeb ddim cyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg ond mae trafodaethau cadarnhaol wastad wedi bod rhwng y Comisiwn a'r Bwrdd [yr Iaith Gymraeg]."Yn 2007 ceisiodd Thomas Cook wahardd eu staff rhag siarad Cymraeg yn y gwaith. Roedd camau rhagweithiol y Comisiwn Cydraddoldeb Hil, un o ragflaenyddion y Comisiwn, yn hollbwysig wrth sicrhau newid ym mholisi'r cwmni a sicrhau bod gan weithwyr yn y cwmni amddiffyniadau cryfach wrth ddefnyddio'r Gymraeg.

Ar wefan y Comisiwn mae yna wybodaeth sydd yn atgoffa pobl am eu hawliau dynol, gan gynnwys y ffaith bod y Ddeddf Hawliau Dynol yn gwahardd camwahaniaethu ar sail iaith. Mae'r wefan hefyd yn cynghori'r cyhoedd o'r hyn y dylent wneud os credant bod eu hawliau dynol wedi eu tramgwyddo sef, "As a first step, you can contact our helpline."Mewn Llythyr at y Comisiynydd newydd, fe ysgrifennodd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Mae negeseuon cymysg o'r Comisiwn yn broblematig iawn, nid yn bennaf i ni fel mudiad, ond i'r bobl sydd eisiau derbyn cymorth gennych chi. Gobeithiaf yn fawr iawn ein bod ni wedi camddehongli safbwynt y Comisiwn a'ch bod chi dal i gynnig help a chyngor mewn achosion fel un Thomas Cook.""Rydym wedi cyfeirio pobl sydd wedi dod atom at y Comisiwn yn y gorffennol oherwydd maent yn gallu helpu pobl sydd wedi eu gwahardd rhag siarad Cymraeg a gallant eu cynghori mewn perthynas â hawl dynol 'Rhyddid Mynegiant'. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw le sy'n derbyn cwynion oddi wrth unigolion sydd wedi eu sarhau am iddynt gael eu gwahardd rhag siarad Cymraeg, felly mae rôl y Comisiwn yn bwysig yng nghyd-destun eu rhyddid i siarad eu dewis iaith."