Mae ymgyrchwyr iaith wedi collfarnu penderfyniad Gweinidog y Gymraeg heddiw i wrthod argymhelliad trawsbleidiol i wella'r Safonau Iaith er mwyn sicrhau hawliau i gleifion dderbyn gofal iechyd yn Gymraeg.
Mewn adroddiad ar Safonau'r Gymraeg ym maes iechyd – dyletswyddau sydd i fod i greu hawliau iaith i gleifion a staff – roedd aelodau o bob plaid yn y Cynulliad wedi galw am welliannau i sicrhau gwasanaethau gan feddygon teulu a gofal iechyd wyneb yn wyneb yn Gymraeg. Fodd bynnag, gwrthododd y Gweinidog Eluned Morgan, Aelod Cynulliad Llafur dros ganolbarth a gorllewin Cymru, dderbyn unrhyw newidiadau i'r dyletswyddau iaith mewn dadl yn y Cynulliad heddiw.
Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
"Mae Eluned Morgan wedi gwneud penderfyniad yn erbyn buddiannau'r Gymraeg. Mae hi wedi gwrthod gwrando ar bwyllgor trawsbleidiol. Mae patrwm yn datblygu o Weinidog sy'n bwrw ymlaen gyda chynlluniau i wanhau hawliau iaith bobl ar lawr gwlad: heddiw gyda'r rheoliadau hyn, ond hefyd gyda'i chynlluniau am Fil y Gymraeg a fyddai'n troi'r cloc yn ôl. Mae'r Gymraeg a chleifion Cymraeg yn mynd i fod ar eu colled o'i herwydd."