Croesawu buddsoddiad addysg Gymraeg, ond angen ehangu’r gronfa

Mae mudiad iaith wedi croesawu manylion am y buddsoddiad yn addysg Gymraeg a gyhoeddwyd heddiw, gan gefnogi galwadau gan Rieni dros Addysg Gymraeg i ehangu maint y gronfa gyfalaf yn sylweddol y flwyddyn nesaf.  

Meddai Tamsin Davies, Is-gadeirydd Cyfathrebu Cymdeithas yr Iaith: 

“Mae’n sicr yn newyddion da ac yn gam tuag at gyrraedd y filiwn o siaradwyr Cymraeg. Rydyn ni’n cytuno gyda Rhieni dros Addysg Gymraeg fod angen ehangu'r gronfa hon fel cronfa flynyddol i gynyddu addysg Gymraeg yn sylweddol.   

“Nod y gronfa yw symud yn rhagweithiol tuag at greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, yn hytrach nag ymateb i'r galw yn unig. Mae angen adlewyrchu’r meddylfryd newydd hwn mewn cyfraith wlad – mae gwir angen Bil Addysg Gymraeg er mwyn sefydlu seiliau newydd a nod hir dymor i'r holl system. Cyfundrefn newydd a ddylai sicrhau, dros amser, mai'r Gymraeg yw prif gyfrwng addysg ein gwlad. Mae hynny’n yn bosib o fewn yr ychydig ddegawdau nesa’.   

“Mae rhaid cofio hefyd am y disgyblion sydd ddim mewn addysg Gymraeg o gwbl ar hyn o bryd - mae angen disodli Cymraeg Ail Iaith gydag un cymhwyster i bob disgybl a sicrhau bod pawb yn dod yn rhugl yn yr iaith.”