Croesawu gwasanaeth aml-blatfform newydd Radio Cymru

 

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu datganiad gan BBC Radio Cymru heddiw y bydden nhw'n creu gwasanaeth ddigidol newydd, gan alw ar i benaethiaid y gorfforaeth sicrhau bod yr arbrawf yn dod yn barhaol.

Mae'r mudiad wedi bod yn annog darlledwyr i ehangu eu gwasanaethau ar ragor o blatfformau ers nifer o flynyddoedd. Daw'r newyddion wedi i S4C lansio gwasanaeth newydd ar-lein o'r enw 'Pump'.

Dywedodd Curon Davies, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith:

"Ry'n ni'n croesawu'r cyhoeddiad yma gan fod dybryd angen rhagor o gynnwys digidol amrywiol yn y Gymraeg, ar gyfer pobl ifanc yn enwedig. Gall un orsaf ddim bod yn bopeth i bawb, felly gobeithio bydd y gwasanaeth newydd yma yn golygu y bydd rhagor o amrywiaeth. Mae'n dod wrth i S4C ddatblygu gwasanaeth cyffrous newydd 'Pump' ar-lein hefyd.

"Ry'n ni wedi galw am sefydlu gwasanaeth annibynnol newydd ar draws nifer o blatfformau gydag adnoddau sylweddol – nid dyna yw'r hyn a gyhoeddwyd heddiw, ond mae'n gam yn y cyfeiriad cywir a dymunwn pob llwyddiant i'r gwasanaeth newydd. Yn sicr, byddwn ni'n galw ar i benaethiaid y BBC wneud yr arbrawf yma yn un parhaol a'i ddatblygu'n bellach fel bod y Gymraeg yn cael ei chlywed ar bob un platfform."