Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu penderfyniad Cyngor Sir Powys ar ddyfodol nifer o ysgolion gwledig yn y Sir. Dywedodd Dafydd Morgan Lewis ar ran y Gymdeithas:"Yr ydym yn cydymdeimlo yn arw â rhieni a phlant yn ysgolion Thomas Stephens ym Mhontneddfechan ac Ysgol Gynradd Llangurig sy'n wynebu cael eu cau. Ond ar yr un pryd mae'r penderfyniad i drafod ymhellach ynglyn a dyfodol Ysgolion Llanfihangel yng Ngwynfa ac Efyrnwy ac i ohirio penderfyniad am Ysgol Carno yn newyddion da iawn.""Beth sydd yn iachus am y penderfyniad hwn yw fod Cyngor Sir Powys yn wahanol i Gynghorau Sir eraill yng Nghymru, ac yn arbennig Cyngor Sir Gaerfyrddin yn trafod dyfodol ysgolion gyda'r cymunedau lleol yn hytrach na'u cau gan ymddwyn yn fympwyol ac anemocrataidd gan anwybyddu barn y bobl leol yn llwyr."