Croesawu sefydlu gweithgor Powys - ond angen amserlen gweithredu

Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu'r cyhoeddiad y bydd Cyngor Sir Powys yn sefydlu gweithgor fydd yn mynd i'r afael â dirywiad nifer y siaradwyr Cymraeg yn y Sir. 

Meddai Elwyn Vaughan ar ran cangen Maldwyn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: 

"Mae'n dda iawn yw clywed addewid cyhoeddus gan y Cyngor i weithredu er lles y Gymraeg. Rydym yn croesawu sefydlu'r gweithgor yma - yn wir, mae'n hen bryd! Rydym yn falch o glywed, hefyd, y bydd yn weithgor trawsbleidiol sydd yn edrych ar bob agwedd o waith y Cyngor. 

Gydag ymweliad yr Eisteddfod fis Awst, bydd llygaid Cymru ar Gyngor Sir Powys a sefyllfa'r Gymraeg yma - mae'n hanfodol, felly, bod y gweithgor yn symud yn gyflym o drafod i weithredu. Dylai'r gweithgor cyhoeddi cyn yr Eisteddfod beth maen nhw'n bwriadu ei wneud yn ymarferol mewn meysydd fel cynllunio ac addysg - felly rhaid gofyn beth yw amserlen weithredu'r Gweithgor? Ni allwn ddisgwyl chwe mis arall tan y cyhoeddiad nesaf. 

Edrychwn ymlaen at glywed mwy am gynlluniau'r gweithgor, ac at gydweithio gyda nhw er lles y Gymraeg."