Croesawu sianel ar-lein newydd S4C 'Pump'

Mae caredigion iaith wedi croesawu lansiad sianel ar-lein newydd S4C heddiw, sy'n dilyn ymgyrch dros ddarpariaeth aml-lwyfan Gymraeg.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi bod yn galw am 'S4C newydd' ers dros bum mlynedd ac wedi galw am ddarlledwr newydd sy'n darllen ar nifer fawr o blatfformau amrywiol. Mae ymchwil yn dangos bod pobl, yn enwedig pobl ifanc, yn derbyn fwyfwy o'u newyddion ac adloniant ar gyfryngau nad ydynt yn radio a theledu. 

Dywedodd Curon Davies, cadeirydd grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Rydyn ni'n croesawu'r cam bach yma yn y cyfeiriad iawn. Mae newid mawr wedi bod, ac yn parhau, o ran patrymau defnydd y cyfryngau. Dyna pam rydyn ni'n galw am ddarlledwr newydd sy'n gweithredu ar draws nifer fawr iawn o lwyfannau. Mae'n destun obaith bod S4C yn symud ymlaen i ddatblygu arlwy o'r fath yma.

"Fodd bynnag, rydyn ni'n pryderu nad oes is-deitlau Cymraeg i'w gael ar y sianel. Mae hefyd marc cwestiwn ynghylch rôl cwmnïau bychain yn hyn oll, dydyn ni ddim eisiau gweld canoli'r gwaith ar-lein yn nwylo'r un cwmnïau mawrion o hyd."