
Mae ymgyrchwyr iaith wedi rhoi croeso gofalus i'r newyddion bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn trefnu adolygiad o effaith iaith ei gwariant ar draws ei holl adrannau.
Mae'r datblygiad yn dod yn sgìl cyfarfod rhwng y Prif Weinidog a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg lle addawodd Carwyn Jones adolygiad o'r fath, a chyfarfod dilynol gyda’r Gweinidog Leighton Andrews. Dangosodd cais rhyddid gwybodaeth gan y mudiad iaith bod llai na phedair mil o bunnau, allan o gyllideb o bron i £17 miliwn, wedi ei wario ar addysg cyfrwng Cymraeg i oedolion yn y gymuned. Yn un o'r blynyddoedd, chafodd dim un geiniog ei wario o'r gyllideb ar addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Dywedodd Toni Schiavone, llefarydd cymunedau cynaliadwy y Gymdeithas:
"Mae'n newyddion calonogol ac yn dangos bod ein hymgyrchu yn dechrau dwyn ffrwyth. Fodd bynnag, bydd dal angen i ni graffu ar y manylion a sicrhau bod patrwm gwariant y Llywodraeth yn newid, ar draws ei holl adrannau. Er enghraifft, rydyn ni’n poeni na fydd yr adolygiad, o bosib, yn ddigon annibynnol."
"Rydyn ni wedi gweld nifer o enghreifftiau lle mae patrwm gwariant y Llywodraeth yn tanseilio'r Gymraeg yn gyfan gwbl. Felly mae wir angen newid yn dilyn yr adolygiad hwn. Mae Carwyn Jones yn mynd i ymateb i holl bwyntiau eraill ein Maniffesto Byw erbyn ddechrau mis Mehefin. A gobeithio cawn ni weld ymateb gadarnhaol pellach. Byddwn ni'n trafod ei sylwadau ar y Maniffesto yn ein cyfarfod cyffredinol arbennig ar yr 8fed o Fehefin."
Dangosodd ymchwil y Gymdeithas hefyd mai dim ond 354 allan o 90,477 prentisiaeth a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru oedd trwy gyfrwng y Gymraeg dros y dair blynedd diwethaf. A 0.3% yn unig o wariant ar Ddysgu Seiliedig ar Waith a ariannodd hyfforddiant cyfrwng Cymraeg.
Mewn llythyr diweddar at y Prif Weinidog, pwysleisiodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Robin Farrar, bwysigrwydd yr adolygiad. Ysgrifennodd: “Er i ni ddisgwyl i'r ffigyrau amlygu problemau mawr ym mhatrwm gwariant hanesyddol y Llywodraeth, roedd yn gryn syndod gweld bod cyn lleied yn cael ei wario ar y rhaglenni cyfrwng Cymraeg hyn ... yr ydym yn edrych ymlaen at glywed rhagor o fanylion am yr adolygiad gwariant hwnnw yn fuan... hoffwn erfyn arnoch i weithredu ar fyrder ar y mater hwn gan fod angen cwblhau adolygiad yn fuan er mwyn iddo lywio cyllideb nesaf y Llywodraeth.”