Cwricwlwm: Cymraeg ail iaith i barhau, er gwaethaf ymrwymiad i'w ddileu

Mae ymgyrchwyr iaith wedi dweud bod y cyhoeddiad am newidiadau i'r cwricwlwm heddiw yn golygu parhau â system Cymraeg ail iaith sy'n methu pobl ifanc. 
 
Mae'r ddogfen a gyhoeddwyd heddiw yn dweud y dylai awdurdodau 'rhannu arferion da o ran dysgu ac addysgu Cymraeg ail iaith'. Fodd bynnag, dywedodd y Gweinidog Addysg mewn cyfarfod Cymdeithas yr Iaith cwta bythefnos yn ôl bod "y cysyniad o’r Gymraeg fel ail iaith yn gysyniad sydd ddim yn gweithio bellach, felly dyw hi ddim yn gwneud synnwyr o gwbl i gael cymhwyster o’r fath". 
 
Dywedodd Toni Schiavone, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: 
 
"Mae'r cyhoeddiad heddiw yn golygu dim newid. Mae hynny'n mynd i arwain at y rhan fwyaf o'n plant yn cael amddifadu o'r gallu i fyw eu bywydau yn Gymraeg. Mae'r cyhoeddiad felly yn ddeddfryd oes o fywyd heb y Gymraeg i'r genhedlaeth nesaf. Mae'n debyg bydd angen Llywodraeth newydd i gyflawni'r hyn mae pobl eisiau, sef pob un o'n pobl ifanc yn gadael ysgol yn rhugl eu Cymraeg." 
 
"Yn ôl Graham Donaldson mae angen 'gweithredu gan ddilyn gweledigaeth glir'. Mae parhau gyda threfn dysgu'r Gymraeg fel ail iaith yn dangos diffyg gweledigaeth ac yn tanseilio unrhyw ddatblygiad posibl."