Am 2yh heddiw, bydd Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr newydd, Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn cymeryd rhan mewn cyfarfod cyhoeddus wedi ei drefnu gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Bwriad y cyfarfod – ‘Y Gymraeg a’i Hawliau’ – yw i drafod yr angen am Deddf Iaith Newydd. Bydd Elin Haf Gruffydd Jones, o ganolfan Mercator ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, a Huw Lewis, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, hefyd yn cymeryd rhan yn y cyfarfod.
Meddai Huw Lewis, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:“Mae sicrhau Deddf Iaith Newydd yn gam hollbwysig os ydym am ddiogelu hawliau siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio ac i dderbyn gwasanaethau trwy gyfrwng yr iaith.“Daw hyn hyd yn oed yn fwy pwysig,o ystyried ein bod bellach yn byw mewn oes lle mai cymaint o wasanaethau yn cael eu cynnig gan gwmniau preifat. Dros y blynyddoedd diwethaf, preifateiddiwyd llawer o’r hen gyfleustodau (dwr, nwy, trydan a’r rheilffyrdd), gan olygu nad oes gan gwsmeriaid bellach yr hawl i fynnu gwasanaethau Cymraeg ganddynt. Ar yr un pryd, mae’r holl ddatblygiadau modern a dylanwadol a fu ers 1993 yn eiddo i’r sector breifat ac felly yn medru anwybyddu’r Gymraeg yn llwyr.Trwy edrych i’r dyfodol i’r flwyddyn 2020, fe welir y bydd hyn yn dwyshau ymhellach wrth i ddylanwad y sector breifat gynyddu ac felly bydd siaradwyr Cymraeg yn colli cyfleoedd i weld a defnyddio’r iaith. O ganlyniad mae pwnc y cyfarfod prynhawn yma yn bethnasol i neges gyffredinol Cymdeithas yr Iaith am wythnos yr Eisteddod; sef bod yr iaith Gymraeg mewn peryg o golli tir ar raddfa gyflym iawn rhwng nawr a’r flwyddyn 2020.”Yn ystod y cyfarfod fe fydd Cymdeithas yr Iaith yn lansio yr ‘Alwad Genedlaethol am Dystiolaeth o’r Angen am Ddeddf Iaith’. Eisioes, mae’r Gymdeithas wedi ysgrifennu at lu o fudiadau Cymreig gan ofyn iddynt am eu cefnogaeth yn yr ymgyrch hon.Penderfynwyd i lansio’r alwad hon yn dilyn sylwadau gan Meirion Prys Jones rai wythnosau yn ôl. Bryd hynny, fe bwysleisiodd ei fod ef, a’r Bwrdd Iaith, yn ddigon parod i ystyried yr angen am Ddeddf Iaith Newydd, ond bod hynny yn dibynnu ar brofi y galw a’r angen am fesur o’r fath. Mae Cymdeithas yr Iaith yn hapus i dderbyn yr her honno ac felly dros y misoedd nsaf fe fydd y mudiad yn canolbwyntio ar gasglu tystiolaeth o’r angen am Ddeddf Iaith Newydd, gan wahodd mudiadau Cymreig eraill i ymuno gyda hwy yn yr ymgyrch.