Cyfarfod Llwyddiannus yng Nghanolfan y Mileniwm

Canolfan y Mileniwm Bu cyfarfod llwyddiannus iawn, gyda'r stafell gynhadleddau yn llawn, yng nghanolfan y Mileniwm neithiwr i drafod yr angen am Ddeddf Iaith Newydd . Cafwyd ymateb candarhaol gan yr holl wrth-bleidiau a oedd yn bresennol, ac roedd consensws barn yn benodol am yr angen am statws swyddogol i'r Gymraeg, hawliau i'r Gymraeg a'r angen am gomisiynydd iaith annibynol.

Roedd y cyfarfod yn arwydd o symud ymlaen sylfaenol, ac mae'n dilyn dogfen gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg wythnos yn ôl a oedd yn galw am newid y ddeddfwriaeth s'yn ymwneud â'r iaith. Dywedodd Dafydd Morgan Lewis, Swyddog Ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith:"Mae'r cyfarfod yn sail da i'r Gymdeithas fynd ati i gwrdd â'r pleidiau gwleidyddol dros yr wythnosau nesaf, er mwyn sicrhau fod yr angen am ddeddfwriaeth ieithyddol newydd yn rhan o faniffesto'r holl bleidiau gwleidyddol yng Nghymru."BBC Cymru'r Byd: 25/01/06: 'Consensws yn datblygu'