Cyfle i ymuno â thîm Cymdeithas yr Iaith!

Mae gan y Gymdeithas gyfle cyffrous i unigolyn gweithgar ymuno â’n tîm staff bach ond effeithiol.

Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Gwleidyddol: Rydyn ni’n chwilio am Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Gwleidyddol i arwain ar ein gwaith cyfathrebu, polisi ac ymgysylltu gwleidyddol ar draws ein meysydd ymgyrchu. Mae hon yn swydd hynod bwysig sy'n ganolog i lwyddiant y Gymdeithas fel mudiad ymgyrchu effeithiol sy'n gosod agenda flaengar ar gyfer y Gymraeg.

Cyflog: hyd at £30,000 (gyda'r posibilrwydd o gyflog uwch i ymgeisydd profiadol). Manylion llawn a sut i ymgeisio.

Dyddiad cau: 17:00, dydd Llun, 29 Mai 2023

Cymdeithas o bobl sy’n gweithredu’n ddi-drais dros y Gymraeg a chymunedau Cymru fel rhan o’r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid ydyn ni. Ni fyddwn yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw ymgeisydd ar sail anabledd, cenedligrwydd, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, dosbarth cymdeithasol, ethnigrwydd, hil, hunaniaeth rhywedd, rhywedd, statws rhianta na chyfrifoldebau gofal.

Rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl o bob rhan o’n cymunedau, yn enwedig pobl o gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig, sy’n aml yn cael eu tangynrychioli mewn swyddi o’r math hwn.