Ar ddydd Iau, cyflwynodd aelodau o gell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith ddeiseb i gyngor Caerdydd yn ystod cyfarfod llawn, yn gofyn i’r cyngor weithredu’n gadarnhaol er mwyn sicrhau dyfodol lewyrchus i’r Gymraeg yn y brifddinas.
Lansiwyd y ddeiseb yn ystod gwyl Tafwyl y llynedd ac ymysg galwadau’r ddeiseb mae gwrthdroi toriadau i gyllid yr ŵyl. Mae’r ddeiseb hefyd yn galw ar y cyngor i gynllunio’n bwrpasol a rhagweithiol i ateb y galw cynyddol sydd yn y ddinas am addysg Gymraeg.
Yn ddiweddar daeth yn amlwg taw dim ond 3% o weithwyr y cyngor sydd yn siarad Cymraeg tra fod o gwmpas 12% o boblogaeth y ddinas yn siarad Cymraeg. Mae deiseb y gell yn galw i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg yn y cyngor gan sicrhau bod holl ddeiliaid rhengflaen y cyngor yn gwbl ddwyieithog, a sicrhau bod holl ganolfannau hamdden, llyfrgelloedd a chanolfannau ieuenctid y cyngor yn cynnig gwasanaethau’n ddwyieithog.
Dwedodd Carl Morris, cadeirydd cell Caerdydd; “Mae angen llawer iawn mwy o uchelgais yn y ddinas hon - ar hyn o bryd, mae rhywun yn cael y teimlad bod nhw’n gorffwys ar eu rhwyfau. Dylai’r cyngor fod yn arwain y ffordd i eraill, ond dim dyna beth sy’n digwydd ar hyn o bryd.”
“Mae’r ddeiseb yn dangos bod yna gefnogaeth gref i’r Gymraeg yn y ddinas, gyda cannoedd o lofnodion. Mae’r cyngor wedi gwneud llawer o addewidion yn ddiweddar, ac gobeithiwn nad siop siarad oedd y gynhadledd Caerdydd ddwy-ieithog gynhaliwyd gan y cyngor fis diwetha.
“Mae’r gell wedi penderfynu creu siarter er mwyn creu darlun clir o’r fath o ddinas hoffem ni ei weld yn y blynyddoedd nesaf. Nid oes rhaid edrych yn galed i weld gwendidau amlwg yn y ddarpariaeth Gymraeg gan y cyngor. Byddwn ni’n casglu enghreifftiau o’r gwendidau hynny i’w cyflwyno i’r cyngor.”