Ar ddydd Mercher y 29ain o Dachwedd fe fydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno drafft mesur ar yr iaith Gymraeg ger bron y pleidiau gwleidyddol ym mae Caerdydd. Mewn cyfarfod sydd wedi ei noddi ar y cyd rhwng y Blaid Geidwadol, Plaid Cymru a Phlaid y Democratiaid Rhyddfrydol fe fydd aelodau’r Gymdeithas yn cyflwyno’r drafft mesur ac yn galw ar y pleidiau i sicrhau eu hymrwymiad i’r angen am ddeddfwriaeth newydd i’r Gymraeg o’r Cynulliad pan ddaw’r tymor newydd wedi’r etholiad.
Meddai Catrin Dafydd, Cadeirydd Grŵp Deddf Iaith Cymdeithas yr Iaith:"Mae cyflwyno’r drafft mesur ger bron y pleidiau yng Nghaerdydd yn weithred symbolaidd ac arwyddocaol. Rydym ni’n gwahodd sylwadau ar y drafft ac yn gofyn i’r dair plaid ymrwymo ymhellach i’r angen am ddeddfwriaeth newydd. Mae Llywydd y Cynulliad wedi gosod her i gyrff gwirfoddol lunio mesurau newydd. Mesur ar y Gymraeg ddylai fod un o’r mesurau cyntaf i’w ystyried pan ddaw’r pwerau newydd i’r Cynulliad. Mae’r ffaith fod arweinwyr pob un o’r gwrthbleidiau wedi datgan y byddan nhw’n bresennol yn y lobi hwn yn arwydd o bwysigrwydd y drafodaeth."Ychwanegodd:"Bydd aelodau o’r Gymdeithas hefyd yn cyflwyno’r drafft Mesur i Lywydd y Cynulliad Dafydd Elis Tomos ar yr un diwrnod mewn cyfarfod a drefnwyd yn arbennig gydag ef. Yn ogystal â’r mesur,mae Cymdeithas yr Iaith yn bwriadu cyflwyno deiseb ac arni filoedd o enwau yn y flwyddyn newydd. Erbyn hyn, mae consensws wedi ei sefydlu bod angen deddfwriaeth newydd i’r Gymraeg er mwyn sefydlu staws swyddogol, hawliau penodol i ddefnyddio’r Gymraeg a Chomisiynydd i’r Gymraeg. Yr her yw datblygu’r drafodaeth ar fanylion mesur iaith."Manylion:Fe fydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Nhŷ Crughywel am 12:30yp yn Ystafell Bwyllgor 24.Ymysg y siaradwyr fydd yr AC Ieuan Wyn Jones, AC Eleanorr Burnham a’r A.C Lisa Francis.