
Rydyn ni wedu hoeddi enwau artistiaid gigs wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni, a fydd yn digwydd mewn dau leoliad.
Bydd cerddoriaeth fyw gan Pedair, Gwibdaith Heb Frân, Plu, Geraint Lovgreen, Gai Toms, Ani Glass ac eraill bob nos rhwng 2 a 9 Awst yn Saith Seren, sef y ganolfan Gymraeg a sefydlwyd yn y dref fel gwaddol i lwyddiant ymweliad diwethaf yr Eisteddfod Genedlaethol â Wrecsam yn 2011.
Rydyn ni hefyd wedi ffurfio partneriaeth gyda Theatr Clwyd i gyflwyno tair noson Gymraeg fawr yn Neuadd Wiliam Aston sydd dan reolaeth Theatr Clwyd ac yn dal dros 800 o bobl. Gobaith y trefnwyr yw y bydd y nosweithiau hyn hefyd yn denu pobl ychwanegol i mewn i Wrecsam yn ystod wythnos yr Eisteddfod.
Dywedodd Nia Marshall Lloyd, aelod o bwyllgor trefnu’r gigs:
“Mae Saith Seren wedi mynd o nerth i nerth fel canolfan i hybu’r iaith yn y gymuned ers ei sefydlu yn fuan wedi ymweliad diwethaf yr Eisteddfod i’n tref, a gobeithiwn y bydd dychweliad yr Eisteddfod yn rhoi hwb ychwanegol wrth fod pobl o ledled y wlad yn gweld mor wych yw’r lle. Rydym yn falch felly y bydd gigs Cymdeithas yr Iaith yn sicrhau y bydd y lleoliad yn ganolbwynt ar gyfer cerddoriaeth Gymraeg yn y dref yn ystod yr ŵyl eleni.
“Bydd y tair noson fawr yn Neuadd William Aston hefyd yn creu cyffro mawr, a gobeithiwn y caiff chwaneg o bobl eu denu i’r dref, hwyrach i dreulio’r dydd ar faes yr Eisteddfod cyn dod i’r gig gyda’r hwyr. Mae hi’n addas mai dathliad o lwyddiant y tîm pel-droed cenedlaethol a’r egni newydd y maen nhw wedi ei roi i Gymru a’r Gymraeg fydd thema ein gig gyntaf yno, sef “Noson Y Wal Goch”. Bydd perfformiadau gan CELAVI, Candelas, Yws Gwynedd, gyda Tara Bandito i gloi, sydd oll gyda chysylltiadau gyda phêl-droed Cymru.”
Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd wedi cyhoeddi’r artistiaid fydd yn chwarae’r noson fawr fydd yn cloi wythnos yr Eisteddfod nos Sadwrn yn Neuadd Wiliam Aston, sef Blodau Papur, Mr a Bob Delyn a’r Ebillion.
Dywedodd Angharad Madog, Rheolwr y Gymraeg Theatr Clwyd a Neuadd William Aston:
"Rydym yn hynod o gyffrous o gael cyd-weithio gyda'r Gymdeithas trwy gynnal y gigs mawr yma. Ers i Theatr Clwyd a Phrifysgol Wrecsam ddod at ei gilydd mewn partneriaeth i achub y neuadd gyngerdd anhygoel hon ychydig dros ddwy flynedd yn ôl, mae'r ganolfan wedi mynd o nerth i nerth.
"Ein bwriad yw adeiladu ar waith Cymraeg yn Neuadd William Aston a Theatr Clwyd, a gyda'r Eisteddfod Genedlaethol yn digwydd ar garreg y drws gobeithiwn yn fawr fod hyn yn gychwyn ar bartneriaeth hyfryd rhyngom ni, a chynulleidfaoedd Cymraeg."
Mae gig fawr nos Wener wrthi’n cael ei threfnu, a bydd manylion y gig honno yn cael ei chyhoeddi yn hwyrach yn y flwyddyn.
Bydd tocynnau ar gyfer sioeau nos Iau a nos Sadwrn yn Neuadd William Aston ar werth ar wefan Neuadd Williams Aston ddydd Gwener Chwefror 14 - anrheg Ffolant da!
- Noson y Wal Goch: https://williamastonwrexham.com/cy/event/walgoch
- Parti Cloi yr Eisteddfod : https://williamastonwrexham.com/cy/event/particloi
Bydd trefn nosweithiau Saith Seren yn cael eu cyhoeddi’n fyw yn y Ganolfan gan Geraint Lovgreen ar Ddydd Gŵyl Dewi (1/03), gyda thocynnau’n mynd ar werth yn lleol yn unig am fis cyn mynd ar werth yn gyffredinol.