Cyhoeddi Bil Cynllunio Amgen, Neges Blwyddyn Newydd

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyhoeddi ei Fesur Cynllunio ei hun fel rhan o’i ymgyrch i chwyldroi’r system cynllunio er mwyn cryfhau’r Gymraeg ar lefel gymunedol - dyna addewid Cadeirydd y mudiad yn ei neges blwyddyn newydd.

Mae nifer fawr o ddatblygiadau tai wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar oherwydd eu heffaith ar y Gymraeg, megis ceisiadau cynllunio am dai ym Mhenybanc, Bethesda a Bodelwyddan. Daw’r newyddion am gynlluniau am gyfraith amgen wedi i’r mudiad gwyno am y ffaith nad oedd sôn am y Gymraeg ym Mesur Cynllunio drafft y Llywodraeth a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr. Nid oedd sôn yn y Mesur drafft er i ymgynghoriad Lywodraeth Cymru ar sefyllfa’r iaith - Y Gynhadledd Fawr - ddod i’r casgliad bod: “... consensws mai symudoledd poblogaeth yw’r her gyfredol fwyaf i hyfywedd y Gymraeg a gwelwyd bod yr atebion i’r her honno ynghlwm â: … polisïau tai a chynllunio...”

Cyfarfu dirprwyiaeth o’r mudiad â’r Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros y Mesur Cynllunio, Carl Sargeant, ym mis Rhagyr i godi eu pryderon am gynlluniau’r Llywodraeth am y Mesur a chyflwyno eu papur trafod amgen iddo. Yn ei neges blwyddyn newydd, dywed Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Er mwyn i’r Gymraeg ffynnu, mae angen polisïau cadarn ac arweiniad clir mewn sawl maes. Mae polisi cynllunio yn allweddol bwysig, oherwydd ei fod yn siapio ein cymunedau, ac yn dylanwadu ar batrymau mewnfudo ac allfudo - patrymau sy'n golygu ein bod yn colli 3,000 o siaradwyr Cymraeg bob blwyddyn. Er mwyn cynyddu niferoedd siaradwyr Cymraeg, a chynnal cymunedau Cymraeg, mae angen newid y system gynllunio bresennol yn llwyr.

“Mae bil cynllunio drafft y Llywodraeth yn mynd i’r cyfeiriad anghywir - dim ystyriaeth i'r Gymraeg, diffyg democratiaeth, dim pwyslais ar anghenion lleol. Fe fyddai'n gwthio  bellach ymlaen gyda strwythura​u di-wyneb sy'n cryfhau gafael swyddogion an-etholed​ig dros y system gynllunio. Dyna pam ein bod ni am gyhoeddi ein bil cynllunio ein hunain - bydd yn dangos yn glir y cyfle sydd gan Lywodraeth Cymru i chwyldroi'r system. Allwn ni ddim colli'r cyfle yna.

Yn ei neges fideo i aelodau’r mudiad, ychwanega: “Dwi’n gobeithio bydd 2014 yn flwyddyn dda i’r Gymraeg, achos rŵan ydy’r amser i Lywodraeth Cymru ddechrau dangos arweiniad; dechrau gweithredu ar y chwe phwynt rydyn ni wedi galw arnyn nhw eu gweithredu. Yn enwedig, ‘ella, meddwl blwyddyn yma am y system cynllunio lle mae pethau yn mynd yn gwbl anghywir ar hyn o bryd. ‘Dan ni’n gweld nifer o ddatblygiadau sy’n mynd i gael effaith drwg ar yr iaith. Os ‘dan ni ddim yn newid hwnna, ‘dan ni dal yn mynd i weld sefyllfa lle mae pobl ifanc yn symud allan o’u cymunedau oherwydd bod gennyn nhw ddim rhywle maen nhw’n gallu fforddio i fyw. Mae angen newid y system o’r gwaelod i fyny fel bod ni’n mesur yr angen lleol am dai; fel mai hwnna yw sail y system gynllunio. Os nad yw Carwyn Jones yn fodlon datgan ei fod o’n mynd i greu system fel yna, falla’ bydd angen i ni yn Nghymdeithas yr Iaith weithredu er mwyn tynnu sylw at ba mor ddifrifol ydy’r sefyllfa sy’n wynebu’r iaith Gymraeg a’n cymunedau ni...”

Mae’r Gymdeithas wedi rhoi tan Chwefror 1af i’r Prif Weinidog ddatgan ei fwriad i drawsnewid y system gynllunio fel rhan o weithredu mewn chwe maes polisi er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn tyfu dros y blynyddoedd i ddod.