Cyhoeddi rali yn Nefyn dros ddyfodol cymunedau Cymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi y bydd rali ‘Nid yw Cymru ar Werth’ yn cael ei chynnal yn Nefyn, ym Mhen Llŷn gyda’r nod o sicrhau bod dyfodol cymunedau Cymru “yn flaenoriaeth” i wleidyddion Cymru o flaen etholiad nesaf Senedd Cymru yn 2026.

Ymysg y siaradwyr bydd Walis George o Gymdeithas yr Iaith, Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd ac arweinydd ei phlaid yn San Steffan a’r beirdd Ieuan Wyn a Myrddin ap Dafydd.

Daw’r rali, a fydd yn cymryd lle ar ddydd Sadwrn, 29 Mawrth, wrth i’r mudiad alw ar y Llywodraeth i fabwysiadu a gweithredu ar frys ar argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yr Athro Seimon Brooks a gyhoeddwyd fis Awst diwethaf ac iddynt ddechrau’r gwaith paratoi er mwyn sefydlu’r hawl gyfreithiol i dai digonol trwy Ddeddf Eiddo yn nhymor nesaf y Senedd.

Esbonia Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith:

“Dydy difaterwch a disymudedd ein llywodraeth ddim yn cyfateb â’r argyfwng enbyd y mae cymunedau ar hyd a lled Cymru yn ei wynebu oherwydd bygythiad y farchnad dai agored. Rhaid i’r gwaith o sicrhau eu dyfodol a datrys yr argyfwng tai fod yn flaenoriaeth i’n gwleidyddion, er mwyn grymuso cymunedau lleol i gael dylanwad dros ddyfodol eu hunain ac i ddarparu tai a gwaith i’w pobl.

“Gall hynny ddechrau digwydd y gwanwyn hwn gydag ymateb cadarnhaol a gweithredu  argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, gan baratoi’r ffordd ar gyfer Deddf Eiddo fel blaenoriaeth yn gynnar ym mywyd y Senedd newydd yn 2026 er mwyn sicrhau mai cartrefi, nid asedau ariannol, yw tai.”

Yn dilyn y rali, bydd cyfarfod cyhoeddus i drafod “Tai dan arweiniad Cymunedau” yng Ngwesty’r Nanhoron. Yn y cyfarfod hwn, bydd menter gymunedol Antur Aelhaearn yn lansio ei chynllun i ddarparu cartrefi i bobl leol, a bydd trafodaeth agored gyda chynrychiolwyr mentrau lleol.

Ychwanegodd Jeff Smith:

“Arwyddocâd Nefyn fel lleoliad yw mai dyma ardal cynllun peilot ‘Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg’ y Llywodraeth, ac mae hi hefyd yn gydnabyddiaeth o’r hwb a roddodd Cyngor Tref Nefyn ac ymgyrch Hawl i Fyw Adra i’r ymgyrch i sicrhau tai i bobl leol yn ddiweddar.

“Croesawn bobl o ledled Cymru i ddod at y dref fach hon sy’n gosod esiampl i ni gyd trwy frwydro dros ddyfodol eu cymuned.”