Cyhuddo Cyngor Ceredigion o gefnu ar y Gymraeg

 crestceredigion.gif Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhuddo Cyngor Sir Ceredigion o gefnu ar yr iaith Gymraeg ar ôl clywed fod y Cyngor Sir wedi apwyntio Prif Swyddog Ieunctid nad yw yn gallu siarad Cymraeg.

Dywedodd Dafydd Morgan Lewis ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae’n gywyilydd fod Cyngor Sir Ceredigion wedi gwneud hyn yn enwedig gan fod Cymry Cymraeg cymwys wedi cynnig am y swydd. Gyda chanran mor uchel o ieuectid Ceredigion yn byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg sut y mae’r Cyngor Sir yn disgwyl i’r Prif Swyddog Ieuenctid wneud ei waith yn effeithiol."Ym mis Rhagfyr fe gyflwynodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ‘Siarter’ i Gyngor Ceredigion oedd yn galw arnynt i gynnal gweinyddiaeth fewnol y Cyngor drwy gyfrwng y Gymraeg. Ond mae’r Cyngor Sir wedi dangos gyda’r apwyntiad hwn mad oes ganddynt unrhyw fwriad i sicrhau tegwch i’r Gymraeg yn eu gweinyddiaeth."Mae’n ddiddorol sylwi fod yr apwyntiad cywilyddus hwn yn digwydd tua’r un amser ar helynt sydd wedi codi ynglyn ag apwyntio Cyfarwyddwr Addysg newydd yn Sir Gaerfyrddin. Ymddengys ar hyn o bryd fod Cynghorau Sir Ceredigion a Chaerfyrddin am y gorau i brofi pa un ohonynt yw’r mwyaf gwrth-Gymreig."Stori oddi ar wefan BBC Cymru'r Byd