Cyhuddo’r Prif Weinidog o fod yn anonest ar enw’r Senedd

Mae mudiad iaith wedi cyhuddo’r Prif Weinidog o fod yn anonest am safbwynt Llywodraeth Cymru ar enw’r Senedd, cyn pleidlais ar y mater heddiw. 

Ym mis Gorffennaf eleni, holodd dirprwyaeth o’r Gymdeithas y Prif Weinidog am ei farn am enw uniaith i’r Senedd. Yn ôl y mudiad, roedd ei ymateb yn ddiamheuol ei fod yn cefnogi enw uniaith. Fodd bynnag, mewn cyfweliad gyda’r wasg ddydd Llun, dywedodd y Prif Weinidog y byddai’n pleidleisio dros enw dwyieithog.

Ym mis Tachwedd y llynedd, wrth siarad gyda’r wasg am osod yr enw Saesneg ‘Welsh Parliament’ ar y Senedd, dywedodd Mark Drakeford mewn cyfweliad: “It does in a way, assume that the gold standard has been set somewhere else and what we have to do is recreate our own mini version and I’m not in favor of that … If I had to choose, I’d have to go with the Senedd because I am quite keen that we establish our still very new institution in ways that does not take a pre-existing model elsewhere as the sort of template and that we’re always judged against what has gone on somewhere else.”

Dywedodd Osian Rhys, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

“Mae sawl aelod o’r Gymdeithas wedi ystyried Mark Drakeford fel gwleidydd egwyddorol ac anrhydeddus. Ond mae’n ddrwg gen i ddweud ei fod wedi bod yn anonest ar y mater yma. Yn ein cyfarfod gyda fe ym mis Gorffennaf, roedd yn hollol glir i ni ei fod yn cefnogi enw uniaith. Yn wir, aeth e mor bell â beirniadu gwleidyddion eraill sy’n mynnu cyfieithu enw uniaith Gymraeg ‘Trefnydd’ Llywodraeth Cymru i’r Saesneg. Soniodd e ddim am unrhyw amheuon oedd gan y Llywodraeth ar y mater. Mae e wedi’n camarwain ni a phobl Cymru.”

Ychwanegodd:

“Mae llawer yn cyfeirio at y sefydliad fel 'y Senedd' yn barod, yn y ddwy iaith - fel maen nhw’n ymfalchïo wrth ganu geiriau Cymraeg ein hanthem genedlaethol. Mae gan bawb yr hawl i fwynhau’r pethau unigryw Gymraeg yma - a does gan neb hawl i ddweud nad ydyn nhw’n perthyn i ddysgwyr a phobl ddi-Gymraeg hefyd. Drwy osod enw Saesneg ar y Senedd, fe fyddai, yn anochel, yn normaleiddio’r enw hwnnw ac yn tanseilio defnydd o’r enw Cymraeg.”

“Os gall pawb ddweud ‘Dáil’ neu ‘Bundestag’ heb yr angen am enw swyddogol Saesneg - pam na allwn ni wneud yr un peth gyda ‘Senedd’? Galwn ar ein gwleidyddion i ddangos hyder yn iaith unigryw Cymru a hyder yn holl bobl Cymru - boed yn siaradwyr Cymraeg ai peidio - drwy roi enw uniaith Gymraeg ar ein Senedd, enw Cymraeg fydd yn perthyn i bawb.”