Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu at Rhodri Morgan i gwyno nad yw cyllideb ddrafft y Cynulliad yn cynnwys unrhyw strategaeth dros y tair blynedd nesaf i alluogi Cymry ifanc i gael tai yn eu cymunedau lleol.
Does dim addewid i gynyddu’r lwfans ar gyfer y Cynllun Cymorth Prynu ac ni roddwyd unrhyw gronfa Hawl i Rentu. Yn y llythyr dywed Cymdeithas yr Iaith Gymraeg"Drwy wrthod cymryd y ddau gam hyn y mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw amdanynt ers yr etholiad, mae’r llywodraeth yn sicrhau na fydd unrhyw gamau ymarferol yn cael eu cymryd trwy holl dymor y llywodraeth i alluogi Cymry ifanc i fyw yn eu cymunedau. Yr ydych yn cau pob sianel gyfansoddiadol o ran y ddadl dros sicrhau cartrefi yn ein cymunedau Cymraeg. Galwn arnoch i newid hyn erbyn cyhoeddi’r drafft terfynol.1. Cynyddu’r arian a ganiateir ar gyfer Cymorth Prynu i o leiaf £5 miliwn y flwyddyn gyda rhaglen gynyddu i lefel a wna wir wahaniaeth i nifer y teuluoedd fydd yn gallu fforddio prynu tai.2. Sefydlu cronfa ‘Hawl i Rentu’ gan gydnabod fod prisiau tai wedi codi cymaint mewn llawer o gymunedau Cymraeg nes ei bod yn amhosibl i Gymry ifanc brynu tai hyd yn oed gyda chymorth."Mae’r Gymdeithas wedi cyhoeddi y bydd yn cychwyn ar fis o weithredu union gyrchol – o hyn hyd at gyhoeddi fersiwn derfynol y gyllideb – i arddangos difrifoldeb yr argyfwng sy’n wynebu ein cymunedau Cymraeg.Stori oddi ar wefan BBC Cymru'r Byd