Cymdeithas i gwrdd â Carwyn Jones am y Cyfrifiad

Bydd swyddogion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cwrdd â’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, i drafod canlyniadau’r Cyfrifiad, cyhoeddodd y mudiad heddiw.

Yn dilyn canlyniadau Cyfrifiad 2011 ym mis Rhagfyr y llynedd, fe gysylltodd y Gymdeithas â’r Prif Weinidog yn gofyn am gyfarfod brys. Bellach mae arweinydd pob plaid yn y Cynulliad wedi trefnu neu wrthi’n trefnu cyfarfod gyda’r mudiad iaith i drafod ymatebion i’r argyfwng sy’n wynebu’r iaith.   

Yn ôl y Cyfrifiad, mi oedd ugain mil yn llai o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru - lawr o 21% ddegawd yn ôl i 19% - ac fe gwympodd canran y siaradwyr yn holl siroedd y gorllewin a’r gogledd. Targed Llywodraeth Cymru oedd cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg o 5% i dros chwarter y boblogaeth.

Dywedodd Toni Schiavone, llefarydd cymunedau cynaliadwy'r Gymdeithas:

“Mae penderfyniad Carwyn Jones i gwrdd â ni i’w groesawu; a dwi’n falch bod holl arweinwyr y pleidiau wedi ymateb yn yr un modd. Mae’r argymhellion yn ein maniffesto byw yn realistig a chyraeddadwy a dwi’n gobeithio y bydd Carwyn Jones yn ymateb yn adeiladol i’r cynigion. Mae’n amlwg o’r cyfarfodydd hyn bod pwysau ein hymgyrchu - gyda channoedd yn anfon negeseuon at y Prif Weinidog - wedi dechrau dwyn ffrwyth. Yn y cyfamser, bydd ein hymgynghoriad gyda phobl ar draws Cymru yn mynd yn ei flaen wrth i ni ddatblygu rhagor o syniadau i gryfhau’r Gymraeg - a byddwn yn mynd a’r syniadau hynny at Carwyn Jones.”

“Dwi wir yn gobeithio y bydd y Llywodraeth yn cwrdd â ni gyda meddwl agored, oherwydd mae angen i’r Llywodraeth fabwysiadu syniadau newydd a gosod cyfeiriad newydd fel bod modd cynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg eto.”

Ychwanegodd Robin Farrar, Cadeirydd y Gymdeithas:

“Mae cymaint y gellir ei wneud i gryfhau sefyllfa’r Gymraeg ac mae’n bryd gweld dewrder a syniadau newydd gan ein gwleidyddion. Mae angen i’r Llywodraeth gydnabod bod argyfwng yn wynebu’r Gymraeg a bod angen mynd i’r afael ag e ar frys. Credwn mai dyhead nifer cynyddol o bobl Cymru yw gwlad lle gallwn ni i gyd fyw ein bywydau yn Gymraeg; deallwn hefyd mai sicrhau cryfder cymunedau Cymraeg eu hiaith yw'r unig ffordd o wireddu'r weledigaeth honno.  Yr hyn sydd eisiau arnom yw’r ewyllys gwleidyddol i wireddu dyheadau pobl ar lawr gwlad"

Disgwylir i’r cyfarfod rhwng Cymdeithas yr Iaith a Carwyn Jones gael ei gynnal yn gynnar ym Mis Chwefror gyda chyfarfodydd a’r pleidiau eraill ar ddiwedd mis Ionawr.