Bron i bumdeg mlynedd ar ôl darlith 'Tynged yr Iaith' gan Saunders Lewis, a arweiniodd at sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, bydd y mudiad yn rhannu ei gweledigaeth ar sut i sicrhau cymunedau Cymraeg cynaliadwy - mewn araith o'r enw Tynged yr Iaith 2.
Bydd rhai o aelodau'r mudiad yn darllen yr araith arbennig yma ym Mlaenau Ffestiniog ar y penwythnos (2pm, Dydd Sadwrn, Ionawr 15fed) a bydd plant ysgol y parc, ysgol mewn cymuned Cymraeg sydd o dan fygythiad, yn canu yn ystod y digwyddiad.
Yn ei araith ym 1962, fe rybuddiodd Saunders Lewis am ddyfodol yr iaith, fe ddywedodd: "Mi ragdybiaf y bydd y ffigurau a gyhoeddir cyn hir yn sioc ac yn siom i'r rheini ohonom sy'n ystyried nad Cymru fydd Cymru heb y Gymraeg. Mi ragdybiaf hefyd y bydd terfyn ar y Gymraeg yn iaith fyw, ond parhau'r tueddiad presennol, tua dechrau'r unfed ganrif ar hugain... ni bu chwaith unrhyw gais politicaidd hyd at yr ugeinfed ganrif i adfer statws yr iaith Gymraeg na chael ei chydnabod mewn unrhyw fodd yn iaith swyddogol na gweinyddol."
Yn araith Tynged yr Iaith 2, yr iaith Gymraeg fel iaith fyw a chymunedol fydd yn cael prif sylw yr araith:
"Drwy ymgyrchu dyfal a gwneud safiad dros y Gymraeg bu nifer o enillion. Mae'r enillion a fu yn sicrhau y bydd y Gymraeg yn byw ar ryw ffurf. Ond pa fath o ddyfodol sydd i'n hiaith? Rydym ymhell iawn o sicrhau dyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol lawn y gellir ei defnyddio ym mhob agwedd ar fywyd. Ai ar ffurf symbolaidd yn unig y bydd ein hiaith yn byw? Ai diwylliant i leiafrif o bobl? A fydd ein yr iaith Gymraeg yn addurn tocenistig a fydd yn rhoi swydd i garfan fach o bobl? Iaith y dosbarth...yn hytrach na iaith sy'n rhan o adfywiad cymuned gyfan?"
Un o'r syniadau a fydd yn codi yn y cyfarfod yw'r angen am Fesur Cymunedau Cynaliadwy er mwyn galluogi pobl ifanc i aros yn eu cymunedau. Meddai Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Mae'n amser i edrych o'r newydd ar weledigaeth Tynged yr Iaith. Deffrodd Saunders Lewis bobl Cymru i'r peryglon oedd yn wynebu'r Gymraeg; bwriad Cymdeithas yr Iaith yw i gyflwyno her i'n haelodau a phobl Cymru i ddeffro'u cymunedau. Rydyn ni'n cynnal y digwyddiad ym Mlaenau Ffestiniog sydd â grwp cymunedol cryf iawn sydd yn darparu nifer o gyfleoedd i bobl o bob oed a hynny yn naturiol drwy'r Gymraeg. Bydd plant ysgol Parc yn diddanu hefyd; mae cymuned Parc yn dal i fod yn gymuned gref, er bod bygythiad i ddyfodol yr ysgol leol yno."
Gweledigaeth newydd Cymdeithas yr Iaith - golwg360 - 15/01/2011
Araith am ddyfodol yr iaith - BBC Cymru - 15/01/2011
Welsh 'becoming symbolic rather than living language' - BBC Wales - 15/01/2011
Minister backs Welsh language battle - Western Mail - 15/01/2011
Time to look afresh at Saunders Lewis' vision, say language campaigners - Western Mail - 14/01/2011
Defiant message had a dramatic effect - Western Mail - 14/01/2011
Am y tro cyntaf erioed fe ddarlledir digwyddiad y Gymdeithas yn fyw yn fyd-eang ar y we. Ychwanegodd Menna Machreth, llefarydd grwp digidol y Gymdeithas:
"Fe wnaethon ni benderfynu darlledu dros y we er mwyn cyrraedd at gymaint o'n haelodau â phosibl a chynnal digwyddiad cymunedol sydd hefyd yn berthnasol yn genedlaethol. Ers darlledu darlith Saunders Lewis mae Cymru a'n cymunedau wedi newid, dyma ni felly yn mynd ati i gyhoeddi gweledigaeth newydd ar gyfer ein cymunedau. Dim ond y dechrau fydd hyn, rydyn ni'n gobeithio y bydd ein haelodau yn cael eu hysbrydoli i fod o ddifrif am ddiogelu ein cymunedau Cymraeg."
Gallwch wylio'r digwyddiad eto isod: