Cymdeithas yn cyfarfod Edwina Hart

deddf_eiddo.gifDaw blwyddyn o ymgyrchu gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg dros ddyfodol cymunedau Cymru i ben ddydd Mercher pan fydd dirprwyaeth o'r Gymdeithas yn cyfarfod Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio.

Bydd Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru yn y Cynulliad, hefyd, yn mynychu'r cyfarfod gydag Edwina Hart. Bwriad Cymdeithas yr Iaith yn y cyfarfod fydd pwyso ar Ms Hart i sicrhau fod arian sylweddol yn cael ei neilltuo yng nghyllideb Llywodraeth y Cynulliad a gyhoeddir ddechrau mis Rhagfyr ar gyfer y Cynllun Cymorth Prynu a hefyd er mwyn cynyddu'r ddarpariaeth o dai ar rent."Dyma benllanw blwyddyn o ymgyrchu gan Gymdeithas yr Iaith yn y maes yma," meddai Si’n Howys, arweinydd ymgyrch Cymdeithas yr Iaith dros Ddyfodol Cymunedau."Rydyn ni eisoes wedi lobÔo Aelodau Seneddol Cymru yn San Steffan ac Aelodau'r Cynulliad yng Nghaerdydd. Rydyn ni, hefyd, wedi cynnal nifer o gyfarfodydd preifat gyda llawer o wleidyddion Cymreig. Ddau fis yn Ùl cafwyd cyfarfod gyda Carwyn Jones, y Gweinidog gyda chyfrifoldeb dros Dai a Chynllunio.""Yn ystod yr haf trefnwyd y daith Dyfodol ein Cymunedau oedd yn ymestyn o Langefni i Gaerdydd. Yna ar 15 Tachwedd, cynhaliwyd rali yng Nghaerdydd.""Ar ddiwedd y rali honno cyflwynwyd dros 3,000 o Ddatganiadau Dros Ddyfodol ein Cymunedau oedd wedi ei arwyddo gan 131 o gynghorau cymuned ledled Cymru, llu o fudiadau cenedlaethol fel Merched y Wawr, Undeb Amaethwyr Cymru, undebau llafur, nifer o eglwysi, gwleidyddion amlwg ac unigolion.""Gyda'r gefnogaeth eang sydd wedi bod i ymgyrch Cymdeithas yr Iaith dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cyfrifoldeb aruthrol ar i Edwina Hart weithredu er lles ein cymunedau," meddai Huw Lewis, cadeirydd y Gymdeithas."Rydyn ni wedi tynnu sylw at y camau penodol y dylid eu cymryd erbyn cyhoeddi cyllideb derfynol y Cynulliad. Gyda'r fath gefnogaeth y tu cefn i ni, ni all Edwina Hart a'r llywodraeth feiddio ein hanwybyddu."Stori BBC Cymru'r Byd