Cymdeithas yn llongyfarch Ynadon Caerdydd

Fe gododd aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar eu traed yn Llys Ynadon Caerdydd heddiw a llongyfarch yr Ynadon am iddynt ddanfon arwydd clir at y Cynulliad trwy osod y ddirwy leiaf hyd yma ar unrhyw ddiffynydd yn dilyn ei rhan yn yr ymgyrch ddiweddar dros Ddeddf Iaith Newydd. Yno i fynegi ei chefnogaeth i'r ymgyrch roedd yr actores Iola Gregory a nifer o aelodau'r cyhoedd.

Cafodd Angharad Clwyd, 27 oed o Bontweli, ddirwy o £50 a gorchmynwyd iddi dalu £200 yn unig o iawndal er bod y Llywodraeth wedi hawlio dros £700. Mewn datganiad i'r Llys dywedodd Angharad Clwyd:"Y ddifrod dwi wedi fy nghael yn euog ohono yw peintio'r geiriau Deddf Iaith Dyma'r Cyfle' ar furiau adeilad Llywodraeth y Cynulliad fel her iddynt. Nid gweithred difeddwl na maleisus oedd hon ond gweithred yr ydwyf yn cymeryd cyfrifoldeb lwyr drosti fel aelod o Gymdeithas yr Iaith. Fe welwch o’r dystiolaeth fod Paul Reynolds y Swyddog Diogelwch wedi dweud: 'Gofynnais i’r merched aros gyda mi nes i’r Heddlu gyrraedd a gwnaethant hynny, gan eistedd ar y grisiau sy’n arwain at y prif ddrws.'Mae hwn yn ffactor wrth i chi benderfynu arddedfryd."Mae gen i hefyd blentyn 2 flwydd oed a dwi am iddo dyfu mewn gwlad lle fydd yn rhydd i ddefnyddio ei famiaith ym mhob rhan o'i fywyd. Mae'r hen Ddeddf Iaith yn perthyn i'r gorffennol – pan roedd y gwasanaethau oll yn y sector gyhoeddus. Mae angen Deddf Iaith Newydd i sicrhau cyfle i'r Gymraeg ym mhob rhan o fywyd gan y darparwyr newydd a lle i'r iaith yn holl ddatblygiadau technolegol y ganrif newydd hon. Mae angen Deddf a fydd yn berthnasol i anghenion fy mab."Meddai Catrin Dafydd, Cadeirydd Ymgyrch Deddf Iaith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Bu’r cyfnod o weithredu cyn y Nadolig yn effeithiol er mwyn tynnu’r sylw at yr angen am drafodaeth ynglŷn â deddfwriaeth ym maes y Gymraeg. Mae eleni, 2006, yn flwyddyn dyngedfennol i’r Gymraeg ac mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dechrau’r flwyddyn gyda mis o ymgynghoriad a thrafodaeth wleidyddol.""Cwestiwn o hawliau ydyw’r ymgyrch hon. Tra bo’r Llywodraeth Lafur y Cynulliad yn parhau i anwybyddu’r angen am drafodaeth maent yn diystyru hawliau pobl i’r Gymraeg. Hawliau pawb sy’n dewis gwneud Cymru yn gartref iddyn nhw. Mae addewidion gwag y Blaid Lafur yn Iaith Pawb yn parhau i dystiolaethu eu diffyg ymroddiad a’u gweledigaeth nhw tuag at y Gymraeg."Ychwanegodd:"Fel rhan o’r cyfnod ymgynghorol mae Cymdeithas yr Iaith yn cynnal cyfarfod cyhoeddus yng Nghanolfan y Mileniwm er mwyn trafod yr angen am Ddeddf Iaith Newydd a’r gwahanol ffyrdd o fynd ati i weithredu hyn. Ymhltih y siaradwyr yn y cyfarfod, bydd John Elfed Jones, cadeirydd cyntaf Bwrdd yr Iaith Gymraeg, a’r Athro Colin Williams. Bydd llefarwyr ar ran y prif bleidiau hefyd yn bresennol i leisio barn."Daw'r achos llys heddiw wedi cyhoeddiad ddoe gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg fod angen ail-edrych ar y ddeddfwriaeth bresennol ym maes y Gymraeg. Daw'r achos dridiau cyn cyfarfod tyngedfenol i drafod yr angen am Ddeddf Iaith Newydd. Ymhltih y siaradwyr a fydd yn bresennol yn y cyfarfod fydd John Elfed Jones (Cadeirydd Cyntaf Bwrdd yr Iaith Gymraeg) a'r Athro Colin Williams. Bydd llefarwyr ar ran prif bleidiau gwleidyddol y Cynulliad hefyd yn datgan eu barn ar yr angen am Ddeddf Iaith Newydd dan gadeiryddiaeth y cyfreithiwr Hywel James.