Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gwneud cais tan drefniadau'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth am gyhoeddi cofnodion pwyllgor gan Gyngor Sir Caerfyrddin a sefydlwyd i hybu'r iaith Gymraeg. Sefydlodd y Cyngor Banel Ymgynghorol yr iaith Gymraeg wedi mabwysiadu strategaeth iaith newydd fis Ebrill diwethaf. Galwodd Cymdeithas yr Iaith am i gyfarfodydd y Panel fod yn
agored i'r cyhoedd a bod cyhoeddi cofnodion ar wefan y Cyngor er mwyn hybu trafodaeth gyhoeddus, ond penderfynwyd Ddydd Llun Hydref 6ed mewn cyfarfod o'r Panel nad oedd hyn yn bosibl o ran cyfansoddiad y Cyngor.
Dywedodd Bethan Williams, Swyddog Maes y Gymdeithas yn Nyfed "Mae'r iaith Gymraeg yn perthyn i holl bobl y sir, ac mae'n bwysig fod y cyfarfodydd yn agored i'r cyhoedd a'r cofnodion ar gael i bawb er mwyn hybu trafodaeth gyhoeddus am ddiogelu'r iaith a chymunedau Cymraeg. Y
Cyngor ei hun sydd wedi penderfynu sefydlu pwyllgor ar ffurf panel ymgynghorol, ac felly ni all hwn fod yn esgus dros gadw'r trafodion yn gaeedig. Deallwn fod y Cyngor o bosibl am newid ei gyfansoddiad yn y dyfodol i fod yn fwy agored, ond rydyn ni wedi gwneud cais am ryddhau'r
cofnodion yn awr o dan drefniadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth gan fod amser yn symud ymlaen cyn dechrau gweithredu'r Strategaeth iaith newydd o ddifri.”
Mae Cymdeithas yr Iaith yn cynnal Cyfarfod Agored “Tynged yr Iaith yn Sir Gâr” yng Nghaerfyrddin ar Sadwrn 17eg o Ionawr gan wahodd y cyhoeddi benderfynu y pryd hynny - 9 mis wedi iddynt dderbyn y strategaeth iaith, a ydy'r Cyngor yn cymryd camau difrifol i weithredu argymhellion Gweithgor y Gymraeg. Mwy o fanylion yma.
Y stori ar Golwg 360: Cymdeithas: Cais Rhyddid Gwybodaeth i gyhoeddi cofnodion pwyllgor iaith