Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ei bod yn siomedig iawn ar ôl cyfarfod Peter Hain heddiw. Roedd Menna Machreth, Cadeirydd y Gymdeithas, Bethan Williams a Ffred Ffransis wedi mynd i'w gyfarfod i drafod hynt a helynt y Gorchymyn Iaith.Dywedodd Menna Machreth ar ran y Gymdeithas:"Tra ein bod wedi cael ar ddeall y bydd y Gorchymyn Iaith yn cael ei drafod ger bron T?'r Cyffredin ym Mis Rhagfyr ac yna yn mynd ger bron y Cyfrin Gyngor ym Mis Chwefror teimlwn yn rhwystredig ac yn siomedig iawn ac mae gennym ein hamheuon os yw'r gorchymyn yn werth y papur y cafodd ei ysgrifennu arno. Mae hyn am na fydd yn cyffwrdd ar sector breifat bron o gwbl, gan fod trwch y siopau ar y Stryd Fawr wedi eu heithrio rhag gorfod cynnig gwasanaeth dwyieithog."Dywedodd Menna Machreth ymhellach:"Ar Dachwedd 6 mae Osian Jones ein Trefnydd yn y Gogledd yn wynebu carchar am ei ran yn yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith. Ofnwn fod y Gorchymyn Iaith sydd gennym ar hyn o bryd mor wan fel na fydd gennym ddewis fel Cymdeithas ond dal ati gyda'n hymgyrch dor-cyfraith fydd yn sicr yn arwain at ragor o garchariadau."