Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Ymosod ar Sinigiaeth Aelodau Seneddol Llafur

TescoMae Cymdeithas yr iaith Gymraeg wedi ymosod ar sinigiaeth Chris Bryant ac aelodau seneddol Llafur eraill o Gymru wedi iddynt alw ar Arriva i newid trefn ieithyddol y cyhoeddiadau mewn gorsafoedd trên yng Nghymru.

Wrth longyfarch Arriva ar ddilyn polisi blaengar dros y pum mlynedd diwethaf fe ddywedodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.* Y Gymraeg yw priod iaith Cymru felly mae'n iawn iddi gael blaenoriaeth dros bob iaith arall yng Nghymru.* Mae Arriva yn cynnig gwasanaeth cenedlaethol ac fel corff sy'n gwasanaethu Cymru gyfan mae'n iawn iddi roi blaenoriaeth i'r Gymraeg. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth y Cynulliad yn dilyn yr un drefn, a hon yw'r drefn hefyd a ffafriwyd gan adroddiad Bowen ar arwyddion ffyrdd dros ddeng mlynedd ar hugain yn ôl.* Mae yna reswm ymarferol dros y drefn. Mae pob siaradwr Cymraeg hefyd yn deall Saesneg. Os daw'r cyhoeddiad yn Saesneg yn gyntaf pa siaradwr Cymraeg sy'n mynd i gau ei glustiau yn ystod y Saesneg er mwyn aros am y Gymraeg? Mae rhoi'r Saesneg gyntaf yn gwneud y Gymraeg yn ddiangen yn yr achos hwn. Bydd y Di-Gymraeg yn cael y wybodaeth ychydig eiliadau ar ôl y cyhoeddiad Cymraeg.* Mae'r drefn yn help i bobl sy'n dysgu'r Gymraeg - maen nhw'n clywed y Gymraeg gyntaf ac yn gallu rhoi cynnig ar ei gyfieithu - ac yna cael yr ateb yn Saesneg.Dywedodd Dafydd Morgan Lewis ar ran y Gymdeithas:"Rhesymau gwleidyddol sydd dros yr ymosodiad gwarthus hwn ar yr iaith Gymraeg gan Aelodau Seneddol Llafur. Mae'n siŵr eu bod yn eu gweld eu hunain yn colli grym yng Nghymru ac am wneud drwg i'r glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru drwy godi nyth cacwn ynglŷn ar iaith Gymraeg."