Cymdeithas yr Iaith v Bandiau Pont Ebwy

gem_beldroed_bandiau_cymdeithas.jpg Ar y dydd Iau yn ‘Steddfod Casnewydd bydd gwledd arbennig i gefnogwyr pêl-droed a cherddoriaeth fel ei gilydd. Oherwydd ar y diwrnod hwn ar gae chwaraeon maes yr Eisteddfod bydd gornest bêl-droed fawreddog yn cymryd lle wrth i dîm Bandiau Pont Ebwy herio tîm Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Bydd y gêm yn dechrau am 3:00y.h. a disgwylir torf fawr i ymgasglu i wylio’r gêm arbennig hon i hyrwyddo gigs y Gymdeithas yng Nghlwb Pont Ebwy.Bydd gigs y Gymdeithas yn cymryd lle mewn dwy ganolfan yng Nghasnewydd eleni sef y Clwb Gwyddelig a Chlwb Pont Ebwy. Clwb Pont Ebwy ydy’r ganolfan agosaf i holl ddigwyddiadau’r eisteddfod eleni, tua 10 munud o gerdded o’r Maes. Mae’r clwb yn adlewyrchu diwylliant yr ardal ddiwydiannol hwn i’r dim ac mae’n leoliad perffaith i gynnal gigs o safon. Yn ogystal â hyn, mae’r Clwb yn cynnig diodydd rhad, bwyd a sesiynau Abri arbennig trwy gydol y prynhawniau.Mae’r gêm arbennig hon wedi’i threfnu fel arwydd o ewyllys da rhwng y bandiau sy’n perfformio a’r Gymdeithas, sydd wedi bod yn trefnu gigs yn flynyddol yn yr Eisteddfod ers y 1970au. Ymysg chwaraewyr ‘tîm y bandiau’ bydd aelodau o Kentucky AFC, Texas Radio Band, Ashokan a Frizbee felly dewch i gefnogi eich hoff fand ac i farnu os ydynt gystal ar y cae a beth ydynt ar y llwyfan!!Nid dim ond yn nhîm y bandiau fydd sêr Cymru yn ymddangos – bydd Dafydd Du yn dyfarnu’r gêm a bydd Dylan Ebenezer yn rhoi sylwebaeth arbennig ar yr holl ddigwyddiad!Yn dilyn y gêm bydd gwahoddiad i bawb symud ymlaen i Glwb Pont Ebwy ble bydd Sesiynau prynhawn Abri yn cymryd lle a ble bydd cyfle i drafod holl gynnwrf y gêm dros beint. Yn perfformio yn hwyrach ymlaen y noson honno yn y clwb bydd Pep le Pew, Lo Cut a Sleifar a Jakokoyak yn ogystal â Bethan Elfyn a Huw Stephens yn Djio – gig gwych fel uchafbwynt i ddiwrnod prysur.Am ragor o wybodaeth yngln â’r gêm, gigs y Gymdeithas neu unrhyw beth arall, ymwelwch â www.cymdeithas.com/gigscasnewydd, neu ffoniwch Swyddfa’r Gymdeithas: 01970 624 501. Gallwch hefyd gysylltu â Owain Schiavone (Swyddog Adloniant) ar owain@cymdeithas.com, neu 07813 050 145.